MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
Wrecsam Egnïol
Gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar
GO4: £24,790 - £25,183
Oriau 29.6 awr yr wythnos (£19,832 Pro-Rata)
Swydd dros dro tan 31 Mawrth 2026 i ddechrau
Rydym yn ceisio recriwtio Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes sydd â'r cymwysterau priodol i weithio fel ein Gweinyddwr ar raglen y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn Wrecsam.
Mae'r cynllun hwn yn ymgorffori cyfleoedd ymarfer corff i gleientiaid a atgyfeiriwyd â chyflyrau iechyd fel rhan o lwybr clefyd cronig lleol.
Mae un o rolau allweddol y swydd wag yn cynnwys trefnu atgyfeiriadau dros y ffôn ac, felly, rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a threfnu cryf.
Mae'r prosiect Inspire yn rhoi cymorth i bobl ifanc 11-18 oed sy'n ei chael hi'n anodd gydag ymddygiadau hunan-niweidiol, tra bod prosiect in2change yn cynorthwyo unigolion ifanc 11-25 oed sy'n ceisio ymdopi â defnydd o gyffuriau neu alcohol.
Mae'r rôl hon yn cynnwys amrywiaeth o dasgau gweinyddol, gan gynnwys anfon llythyrau at bobl ifanc, rhieni, gofalwyr ac atgyfeirwyr ar ôl derbyn atgyfeiriadau am gymorth un-i-un.
Yn ogystal, mae'r rôl yn cynnwys mewnbynnu data i systemau fel taenlenni a Synergy, prosesu archebion trwy P2P a chyflawni dyletswyddau gweinyddol arferol eraill.
Bydd y rôl yn cael ei rhannu rhwng cynllun NERS (3 diwrnod) a gwasanaeth Inspire ac In2change (1 diwrnod).
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sian Brierley ar 01978 297361 (Cynllun NERS) neu Sarah Tompkin ar 07803 022159 (Inspire ac In2Change)
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
DYDDIAD CAU: 13/07/2025