MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ysgol Pendalar, Caernarfon,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION ADDYSG ARBENNIG
YSGOL PENDALAR, CAERNARFON
(Arbennig 3 - 19: 118 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi, 2025 neu cyn gynted a phosib ar ôl hynny.
1 x CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 2
(ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL)
Dros dro hyd at 31/08/2026 yn y lle cyntaf.
Oriau gwaith: 31.25 awr yr wythnos
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o faes anghenion addysgol arbennig, Ymddygiad, PECS, Makaton, Codi a Thrin a Applied Behaviour Analysis (ABA) o fantais ond nid yn angenrheidiol. Bydd posib dilyn cwrs NVQ trwy'r Coleg tra'n gweithio yn yr ysgol ac wrth gwrs derbyn hyfforddiant arbennigol priodol.
Swydd am gymhorthydd sydd gyda NVQ Lefel 2 neu uwch.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol,
Graddfa GS3 pwyntiau 5 - 6 (sef £18,025 - £18,558 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu
Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth mewn gofal, Deiniol Harries. (Rhif Ffôn 01286 672141) e-bost: Deiniol.Harries@pendalar.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Sophie Eames, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Pendalar, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd
(Rhif Ffôn: 01286 672141). Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 2IL O ORFFENNAF, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
Y Safonau Broffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu
ADDYSGEG
MIREINIO ADDYSGU
HYRWYDDO DYSGU
DYLANWADU AR DDYSGWYR
Rheoli'r amgylchedd dysgu
Help gydag asesu
Helpu i ddarparu adnoddau priodol
Cynnwys teuluoedd yn y broses ddysgu
Pedwar diben i ddysgwyr
Cyd-destunau bywyd go iawn
Cysylltu pynciau â themâu
Helpu dysgwyr i wneud cynnydd
Arsylwi ar ddysgwyr
Gwrando ar ddysgwyr
Dysgwyr yn arwain dysgu
Helpu dysgwyr i wneud ymdrech
Deilliannau dysgu a lles
CYDWEITHREDU
DYSGU PROFFESIYNOL
Ceisio cyngor a chymorth
Gweithio gyda chydweithwyr yn yr ysgol
Cefnogi a datblygu eraill
Darllen ac ystyried casgliadau ymchwil
Rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol
Iaith a diwylliant Cymru.
ARLOESI
ARWEINYDDIAETH
Datblygu arbenigedd y tîm
Gwerthuso effaith newidiadau i addysgeg
Cymryd cyfrifoldeb personol
Arfer cyfrifoldeb corfforaethol
Arwain cyd-weithwyr, prosiectau a rhaglenni
Arwain digwyddiadau sy'n gysylltiedig â dysgu
Mae disgwyl bydd pob cymhorthydd yn ymrwymo i'r Safonau Proffesiynol a'u datblygu.
Gwerthoedd ac Ymagweddau Cyffredin
- Iaith a Diwylliant Cymru
Mae'r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
- Hawliau Dysgwyr
Bydd anghenion a hawliau dysgwyr yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth yn null y cynorthwyydd addysgu o wneud ei swydd. Mae'r cynorthwyydd addysgu yn arddangos disgwyliadau uchel ac ymrwymiad i gyflawniad pob dysgwr.
- Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol
Mae'r cynorthwyydd addysgu yn pwysleisio pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn gyson. Bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i feithrin sgiliau ar draws pob maes dysgu a chymerir pob cyfle i ehangu sgiliau a chymhwysedd dysgwyr.
- Dysgwyr Proffesiynol
Mae'r cynorthwyydd addysgu yn ddysgwr proffesiynol ac mae'n ymrwymo i ymgysylltu parhaus mewn datblygu, cydweithio ac arloesi gydol gyrfa.
- Rôl yn y System
Mae'r cynorthwyydd addysgu wedi ymrwymo i ddysgwyr ym mhob man ac mae'n rhan ddylanwadol o ddatblygu diwylliant addysg cydlynol yng Nghymru.
- Hawl Broffesiynol
Mae gan y cynorthwyydd addysgu hawl broffesiynol i fod yn rhan o ysgol sy'n ystyried ei hun fel sefydliad sy'n dysgu. Mae gan y cynorthwyydd addysgu ymreolaeth i fod yn rhan weithredol o broffesiwn lleol, cenedlaethol a byd-eang ac mae ganddo'r hawl i annog a chefnogi gwelliant i'r ysgol er budd y dysgwyr.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad athrawon ac/neu aelodau o dîm rheoli'r ysgol.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
• Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn
Prif Ddyletswyddau
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth ar gyfer disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion, yn cynnwys rhai gydag anghenion dysgu ychwanegol, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad i weithgareddau dysgu.
• Gweithredu Cynlluniau Addysg/Ymddygiad Unigol a rhaglenni Gofal Personol- yn cynnwys toiledu, bwydo a symudoledd.
• Yn dilyn hyfforddiant, gweinyddu meddyginiaeth yn unol â'r gweithdrefnau a pholisïau ar gyfer yr AALL ac ysgolion.
• Cynorthwyo gyda goruchwylio disgyblion y tu allan i amser gwersi, yn cynnwys cyn ac ar ôl ysgol ac amserau cinio.
• Mynd gyda staff addysgu a disgyblion ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i'r ysgol ar gais a chymryd cyfrifoldeb am grŵp o dan oruchwyliaeth yr athro/athrawes.
• Sefydlu perthynas dda gyda'r disgyblion, gan weithredu fel model rôl a bod yn ymwybodol o anghenion unigol ac ymateb yn briodol iddynt.
• Annog disgyblion i ryngweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gosod disgwyliadau uchel a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
• Hwyluso cynnwys a derbyn pob disgybl o fewn y dosbarth, gan hybu annibyniaeth.
• Dan arweiniad yr athro/athrawes, darparu adborth i ddisgyblion.
• Cydweithio gyda'r athro/athrawes i greu amgylchedd dysgu pwrpasol.
• Cynorthwyo i glirio'r dosbarth a chynorthwyo gydag arddangos gwaith y disgyblion.
• Sicrhau adborth rheolaidd ac effeithlon i'r athro/athrawes, gan adrodd ar ymatebion y disgyblion i weithgareddau dysgu, cynnydd, a lles disgyblion
• Hybu ymddygiad disgyblion ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
• Cefnogi strategaethau dysgu amrywiol dan arweiniad athro/athrawes.
• Cefnogi'r defnydd o TGaCh mewn gweithgareddau dysgu.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy'n ofynnol i gwrdd â'r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo'r disgyblion i'w defnyddio.
• Cysylltu'n broffesiynol â rhieni, gofalwyr dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Cyfranogi mewn cyfarfodydd gyda'r rhieni a chyfrannu at arolygon blynyddol yn unol ag arfer ysgol.
• Bod yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau sy'n berthynol i gynhwysiad, amddiffyn plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, a chydymffurfio â hwynt, gan adrodd am bob pryder.
• Cyfrannu at ethos/gwaith/amcanion cyffredinol yr ysgol.
• Mynychu cyfarfodydd perthnasol.
• Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill ac arolygon proffesiynol ar gais.
• Cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad yn unol ar Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd ychwanegol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol â chais y Rheolwr.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor/Ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yr ysgol/ Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon yr ysgol/ Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi