MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dadansoddwr Tîm Perfformiad a Gwybodaeth

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060

Mae cyfle wedi codi gyda Thîm Perfformiad a Gwybodaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg, i Ddadansoddwr Data Tîm.

Dadansoddwr Tîm Perfformiad a Gwybodaeth

Rôl y dadansoddwr data fydd gweithio gydag ysgolion a'u cefnogi i ddefnyddio eu system gwybodaeth reoli (rhoddir hyfforddiant llawn) yn ogystal â chefnogi'r tîm i ddadansoddi data cymhleth fel y'i nodir gan swyddogion o fewn y gyfarwyddiaeth addysg a thimau ehangach. Bydd y rôl yn cynnwys trin a choladu gwybodaeth o wahanol systemau i ddarparu data / gwybodaeth berthnasol i randdeiliaid.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • Feddu ar sgiliau TG cryf a gwybodaeth ymarferol dda o daenlenni a chronfeydd data neu gymwysiadau tebyg.
  • Sgiliau trefnu a rheoli prosiectau amlwg i gydbwyso blaenoriaethau sy'n gwrthdaro a rheoli llwyth gwaith amrywiol
  • Dadansoddi data perfformiad a rhoi canllawiau defnyddio i reolwyr gwasanaeth
  • Bydd angen i chi fod yn chwaraewr tîm hunanysgogol yn ogystal â gallu gweithio ar eich pen eich hun, a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol.


  • Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

    Gwiriadau Cyflogaeth

    Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

    Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

    Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

    Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

    Diogelu

    Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

    Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

    Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

    • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
    • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
    • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
    • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

    Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.