MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Ffiseg - Ysgol Maes Y Gwendraeth

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1983

Sefydliad:

Ysgolion

Nifer y swyddi gwag:

1

Math o gontract:

Parhaol Amser Llawn

Lleoliad:

Sir Gaerfyrddin

Gradd:

Athrawon Ysgol

Cyflog:

£32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr:

£24.72 - £30.04

Oriau Contract:

1.0 FTE

Dewch i ymuno â'n tîm

Mae Pennaeth a Llywodraethwyr ein hysgol yn dymuno penodi Athro Ffiseg ymroddedig, sy'n angerddol am addysgu a datblygu plant i ddod yn unigolion annibynnol a hyderus.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus allu addysgu Ffiseg ar draws yr ysgol gan gynnwys y Chweched Dosbarth. I ddechrau yn y swydd ym mis Medi 2025.

Bydd gennych sgiliau addysgu rhagorol, rhinweddau rhyngbersonol a byddwch yn gallu gweithio fel rhan o dîm i gynnal y safonau uchel a osodwn i ni ein hunain a'n disgyblion. Rhaid i chi fod yn gyfathrebwr da i sefydlu a chynnal sianeli cyfathrebu agored rhwng staff, rhieni, gwarcheidwaid a gweithwyr proffesiynol addysgol.

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth yn ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed ac yn disgwyl i'r holl staff rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn frwdfrydig ac yn greadigol wrth gyflwyno'r cwricwlwm sy'n seiliedig ar sgiliau.

Yn gyfnewid, gall yr ysgol gynnig:
  • Tîm o gydweithwyr hapus, cyfeillgar a chroesawgar.
  • Tîm arweinyddiaeth ymroddedig, brwdfrydig sydd eisiau datblygu arweinwyr y dyfodol.
  • Plant brwdfrydig ac ymroddedig.
  • Staff a Chorff Llywodraethu cefnogol.

Am fanylion pellach, cysylltwch â'r Pennaeth, Mr Arwyn Thomas neu'r Pennaeth Cynorthwyol, Mrs Eurgain Bonell.

Disgrifiad Swydd:

Teacher-Athro-Athrawes-Ysgol Cymraeg Secondary 018967.pdf - 159KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Lefel DBS:

Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:

Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 06/07/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.