MANYLION
  • Lleoliad: Nationwide,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £58.400 - £62,634 + 3 SPA (Soulbury 13-16)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog y Gwasanaeth Gwella Addysg - Ymgynghorydd Gwella (Rhifedd)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £58.400 - £62,634 + 3 SPA (Soulbury 13-16)

Lleoliad gwaith: Bae Colwyn/Rhuthun/Amrywiol/Hybrid

Mae Gwasanaethau Addysg Conwy a Sir Ddynbich yn chwilio am ymarferwyr addysg profiadol i ymuno â'r Gwasanaeth Gwella Addysg i ymgymryd â rôl hanfodol wrth gefnogi a sicrhau addysg o'r ansawdd gorau i holl bobl ifanc ysgolion uwchradd Conwy a Sir Ddynbich.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gydag arweinwyr ysgolion uwchradd a staff i ddatblygu a gweithredu strategaeth i wella sgiliau rhifedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm 11-16 oed, yn ogystal â chefnogi arweinyddiaeth ac addysgu cymwysterau rhifedd a mathemateg yng Nghyfnod Allweddol 4.

Mae hon yn swydd rhan amser cyfnod penodol i gyfoethogi'r Gwasanaeth Gwella Addysg yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid a datblygu. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth a her ddwyieithog er mwyn parhau i wella cyrhaeddiad a phrofiad yr holl blant a phobl ifanc yn ein hysgolion a'n lleoliadau ac edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr profiadol, arloesol sy'n canolbwyntio ar atebion i ymuno â'r Gwasanaeth.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd gennych y sgiliau a'r arbenigedd i arwain a chefnogi agweddau statudol ac anstatudol perthnasol ar addysg, i sicrhau bod ysgolion uwchradd yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn cael y gefnogaeth a'r her o ansawdd uchel sydd eu hangen i wneud cynnydd parhaus.. Byddwch yn gweithio'n agos gydag ysgolion, lleoliadau, rhanddeiliaid a Swyddogion Awrdudodau Lleol i gasglu a rhannu gwybodaeth a chynllunio a chyflwyno gwelliannau i sicrhau'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc yng Nghonwy a Sir Ddynbich. Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Telir y swydd ar raddfa Proffesiynol Gwella Addysg Soulbury a chroesewir ceisiadau gan arweinwyr ysgol profiadol sydd â hanes profedig o reoli ymyriadau addysg yn llwyddiannus i wella perfformiad ysgolion. Gallai hyn fod mewn lleoliad ysgol neu fel gweithiwr proffesiynol o fewn Awdurdod Lleol neu Gonsortia Rhanbarthol. Amlinellir rhagor o fanylion am ddyletswyddau a chyfrifoldebau swydd-benodol yn y ddogfennaeth ychwanegol.

Oherwydd natur y gwaith, mae'r swydd yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Clare Scanlon Rheolwr Gwasanaeth Gwella Addysg, 01492 575343 clare.scanlon@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.