MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Yr Hafod, Johnstown
Ffordd Bangor, Johnstown, LL14 2SW
Alison Heale - Pennaeth

27.5 awr yr wythnos
G04 - £15,375 - £15,619 y flwyddyn
O fis Medi 2025
(Cytundeb dros dro - tan 31 Awst 2026 i ddechrau)
YN YSTOD YR TYMOR YN UNIG - DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR

Mae Ysgol Yr Hafod, Johnstown yn dymuno recriwtio Cynorthwydd Addysgu Lefel 2 i weithio yn ein Dosbarth Darpariaeth Adnoddau.
Mae ein dosbarth darpariaeth adnoddau yn cefnogi hyd at 11 o ddisgyblion AAA (7-11 oed) gydag amrywiaeth o anghenion dysgu.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
1. ag disgwyliadau uchel o ran yr hyn y gall plant ei gyflawni waeth beth fo'u gallu
2. yn angerddol am weithio gyda phlant ag AAA ac yn cefnogi eu hanghenion
3. yn hyrwyddo llesiant uchel ac yn defnyddio dulliau rheoli ymddygiad cadarnhaol
4. â dealltwriaeth dda o bwysigrwydd dysgu gweithredol ac sy'n cefnogi plant gyda'u cynlluniau datblygu unigol
5. yn gallu gweithio o dan arweiniad yr athro dosbarth ac yn dangos mentergarwch a chreadigrwydd
6. yn cynnig ymyraeth i gefnogi lles, llythrennedd a rhifedd
7. yn cefnogi datblygiad a chynnal ardaloedd darpariaeth yn barhaus
8. â sgiliau cyfathrebu da gyda phlant, staff a rhieni
9. yn gweithio'n dda fel rhan o dîm
10. yn cefnogi plant i dreulio amser mewn dosbarthiadau prif ffrwd lle bo'n briodol

Am ragor o wybodaeth am y rôl, gweler y disgrifiad swydd ynghlwm neu cysylltwch â Mrs Alison Heale, Pennaeth ar 01978 840643.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.
ðŸ"§ mailbox@yrahafodjohnstown-pri.wrexham.sch.uk

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: Dydd Llun 30 Mehefin 2025
CYFWELIADAU: Dydd Llun 7 Gorffennaf 2025