MANYLION
  • Lleoliad: Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, CF72 9XE
  • Testun: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £81,358 - £94,245
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Llanhari

Pennaeth - Ysgol Llanhari

Ysgol Llanhari
Ysgol Llanhari

Pennaeth

Graddfa Cyflog: L27 – L33 £81,358 i £94,245 y flwyddyn

Cytundeb Parhaol

Swydd ar gyfer mis Ionawr 2023 neu yn gynharach os yn bosibl

Nifer ar y gofrestr: 696

Mae Ysgol Llanhari yn ysgol lwyddiannus, flaengar a chynhwysol sydd yn darparu addysg i ddisgyblion o 3 hyd at 19 mlwydd oed drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n ysgol sydd yn anelu at ddarparu’r profiadau a’r cyfleoedd gorau posibl i bob un disgybl, yn academaidd ac yn gymdeithasol, mewn amgylchedd hapus, diogel ac ysbrydoledig. Mae awyrgylch deuluol arbennig yn yr ysgol lle y gwelir disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach yn chwarae rôl bwysig yn Nheulu Llanhari. Mae’r ysgol wedi ei lleoli yn ne Cymru, yn agos at yr M4.

Mae yma gyfle cyffrous i arweinydd ysbrydoledig a blaengar adeiladu ar lwyddiannau’r ysgol ac i lywio dyfodol a thwf yr ysgol. Yn ddiweddar, clustnodwyd yr ysgol fel un a fydd yn elwa o fuddsoddiad cynllun ariannu’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Gyda hynny daw cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus sicrhau bod cynlluniau ar gyfer adeiladau ac adnoddau’r ysgol yn diwallu anghenion yr ysgol, yn adlewyrchu'r safonau a'r gwerthoedd uchel sydd eisoes yn eu lle ac sydd yn galluogi twf yr ysgol yn y dyfodol.

Yn Ysgol Llanhari, mae ymdeimlad cryf o deulu, ynghyd â staff sydd wedi ymrwymo i sicrhau addysgu a dysgu o'r safon uchaf. Mae gennym ffocws clir ar ddysgu proffesiynol. Rydym yn ysgol Cynghrair Dysgu Proffesiynol y Consortiwm, yn Ysgol Arweiniol Addysg Gychwynnol Athrawon ac roeddem yn Ysgol Arloesol a arweiniodd ar ddylunio a datblygu Cwricwlwm i Gymru.

Mae'r Llywodraethwyr a'r disgyblion yn awyddus i benodi arweinydd uchelgeisiol, deinamig, blaengar:

• sydd wedi dangos arweinyddiaeth ragorol yn y sector cynradd neu uwchradd;
• a fydd yn parhau i gydweithio’n agos â chymuned yr ysgol i ddatblygu a hyrwyddo gweledigaeth, diwylliant a disgwyliadau uchel o bawb;
• sydd ag ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda phawb yn Nheulu Llanhari; disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach;
• sydd â’r gallu i gynllunio'n strategol a rhoi ffocws clir ar les disgyblion a staff, cyflawniad disgyblion a dysgu proffesiynol staff;
• a fydd yn modelu’r disgwyliadau uchaf posibl ar gyfer disgyblion a staff;
• a fydd yn gosod disgwyliadau uchel i ddisgyblion, gan anelu at sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial ac yn rhagori – yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn academaidd.

Mae croeso i ddarpar ymgeiswyr ymweld â'r ysgol ddydd Llun Mehefin 6ed. Os hoffech drefnu ymweliad ar y diwrnod hwn, anfonwch e-bost at post@llanhari.com erbyn Dydd Iau Mai 26ain 2022.

Am fwy o wybodaeth am yr ysgol ewch i’n gwefan www.llanhari.com

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch y broses ymgeisio, ffoniwch Ellen Williams, Adnoddau Dynol, ar y rhif ffôn canlynol: (01443) 444538 neu anfonwch e-bost at Ellen.M.Williams@rctcbc.gov.uk.

Am fanylion pellach cliciwch ar y botwm ‘login/create account’ isod.

Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Dyddiad cau: 12 o’r gloch, hanner dydd, ddydd Iau, Mehefin 9fed 2022.

Rhestr Fer: Mehefin 13eg 2022

Cyfweliadau Mehefin 16eg & 17eg 2022

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A CHYNGOR RHONDDA CYNON TAF. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.