MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £36,581 - £40,444 Pro Rata | Grade 7
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 15 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hysbyseb Rheolwr Data Ac Arholiadau - Ysgol Croesyceiliog

Torfaen Local Authority

Cyflog: £36,581 - £40,444 Pro Rata | Grade 7

Mae Ysgol Croesyceiliog yn dymuno penodi Rheolwr Arholiadau a Data profiadol a hynod drefnus i ymuno â'r tîm ymroddgar o weithwyr proffesiynol. Dyma gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog wrth gefnogi addysgu a dysgu trwy fynd ati mewn ffordd effeithiol i reoli data ysgol, arholiadau a systemau asesu mewn ysgol uchelgeisiol iawn, sy'n canolbwyntio ar roi pob cyfle i ddisgyblion gyflawni'r gorau y gallant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reoli holl agweddau'r arholiadau allanol a mewnol, data asesu disgyblion, systemau adrodd, a ffurflenni statudol, a hynny'n gywir ac mewn ffordd effeithlon. Mae'r rôl yn ganolog i'r gwaith o sicrhau uniondeb data, ei ddadansoddi a'i ddefnyddio i gefnogi'r gwaith o wella'r ysgol, monitro cynnydd disgyblion, a llywio penderfyniadau strategol. Gan weithio'n agos gydag uwch arweinwyr, staff addysgu, byrddau arholi ac asiantaethau allanol, Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu'n sylweddol at godi safonau a gwella canlyniadau i bob dysgwr.

Yn Ysgol Croesyceiliog, mae diwylliant cryf o gydweithio, arbenigedd proffesiynol a gwelliant parhaus. Bydd y Rheolwr Arholiadau a Data yn gweithio o fewn tîm cefnogol a phrofiadol, gan helpu i sicrhau bod systemau data yn darparu gwybodaeth ystyrlon sy'n galluogi staff i nodi cryfderau, mynd i'r afael â rhwystrau i ddysgu a manteisio i'r eithaf ar lwyddiant disgyblion.

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol llawn cymhelliant, rhagweithiol a hynod fanwl sydd â sgiliau rhagorol o ran trefnu a dadansoddi. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymroddgar i gynnal y safonau uchaf o ran cywirdeb, cyfrinachedd ac effeithlonrwydd, wrth fynd ati i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda staff, rhieni, disgyblion a phartneriaid allanol. Yn anad dim, byddant yn rhannu ein cred bod gan bob disgybl y potensial i lwyddo. Byddant yn cefnogi ein hymrwymiad i ethos yr ysgol, sef 'Dysgu, Parch ac Uchelgais', gan sicrhau bod pob person ifanc yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial llawn.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.