MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL VICTORIA
STRYT POYSER
WRECSAM
LL13 7RR
Ffôn: 01978 360060
Pennaeth: Mrs D Eccles
CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 1 (Cymorth Unigol)
Gradd G03: £24,027 - £24,404 pro rata
(18.75 awr yr wythnos)
YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG HEB WYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
Contract cyfnod penodol - 1.09.25 - 31.03.26
Mae'r corff llywodraethu yn ceisio penodi cynorthwyydd addysgu Lefel 1 gofalgar, brwdfrydig, gweithgar sydd â diddordeb mewn anghenion dysgu ychwanegol, sydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo lles disgyblion a phrofiadau dysgwyr cadarnhaol yn ogystal â gweithio tuag at barhau â'i ddatblygiad proffesiynol ei hun.
Fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 byddwch chi'n gweithio yn ein hadran Cyfnod Sylfaen gan ddarparu cymorth 1:1 i ddisgybl ag anghenion dysgu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r disgybl i weithio yn yr ystafell ddosbarth a'r tu allan yn unigol ac mewn grwpiau bach. Byddwch chi'n cyfrannu at gynlluniau addysg wedi'u paratoi ac yn gweithio arnynt. Bydd disgwyl i chi hefyd weithio'n agos gyda'r Cydlynydd ADY; asiantaethau allanol; rhieni'r disgyblion a'r athrawon dosbarth i gefnogi dysgu'r disgyblion. Mae profiad o weithio gyda disgyblion ag anghenion ychwanegol yn ddymunol.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â'r Pennaeth neu'r Cydlynydd ADY (Mrs M Jones) gan ddefnyddio'r rhif uchod.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 8 Gorffennaf 3.30pm ymlaen