MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Crosskeys,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £17,830 - £35,088
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £17,830 - £35,088
Darlithydd - DarlunSwydd ddisgrifiad
26 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am ddarlithydd llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol.
Mae'r cwricwlwm a gynigir yn eang ac yn cwmpasu holl feysydd y Celfyddydau Creadigol o Gelf a Dylunio, Ffasiwn a Ffotograffiaeth i Ddylunio Gemau, y Cyfryngau a Darlunio.
Bydd gennych y sgiliau a'r brwdfrydedd i gyflwyno cymwysterau galwedigaethol ar bob lefel a byddwch yn chwaraewr tîm rhagorol.
Rydym yn chwilio am rywun sy'n rhagweithiol ac yn flaengar yn eu cyflwyniad i ystod o ddysgwyr a fydd yn ychwanegu at elfen fugeiliol pob cwrs. Yn ddelfrydol bydd gennych y weledigaeth i gynorthwyo gyda datblygu'r cwricwlwm yn unol ag anghenion cyflogwyr lleol a chenedlaethol a datblygu dulliau arloesol o addysgu, yn yr ystafell ddosbarth a dysgu cyfunol. Bydd gennych gysylltiadau cryf â diwydiant a bydd gennych brofiad o redeg prosiectau byw a briffiau.
Bydd angen i chi feddu ar gymwysterau priodol gyda gradd a meddu ar gymwysterau addysgu. Bydd gofyn i chi ymgymryd ag ystod o weithgareddau addysgu, meddu ar sgiliau trefnu rhagorol a gallu arwain a chyfrannu'n effeithiol at waith tîm.
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) os yn briodol.
Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Bydd swyddi darlithio yn gofyn am gymhwyster addysgu (e.e. TAR) neu barodrwydd i ennill un gyda chyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn ofynnol o dan eich contract cyflogaeth a chofrestriad CGA.
Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sail i hyn a byddwn yn glynu wrthi ar bob cam o'r broses recriwtio.
Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi'u hymgorffori yn ein hymarferion gwaith o ddydd i ddydd gyda'n dysgwyr, ein cydweithwyr a'n partneriaid.
Rydym yn gwybod mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i'n diwylliant yn Coleg Gwent. Rydym yn dymuno i bob unigolyn deimlo'n hyderus, teimlo'n falch a theimlo ei fod yn gallu bod ei wir hunan yn y gwaith.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy chwalu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i gyrraedd ei botensial. I sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, croesawn geisiadau, yn benodol, gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl dduon, pobl Asiaidd, a phobl o leiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anneuaidd a phobl gydag anableddau. Gyda'n gilydd, rydym yn parhau i greu gweithle sydd, nid yn unig, yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr, ond sydd, hefyd, yn cynrychioli'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n siarad ieithoedd eraill a phawb, beth bynnag eu hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (un rhyw neu ddau ryw), nam neu gyflwr meddygol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, yn unol â'n Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymlynu wrth y Gr"{p Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Enabled, Men's Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance) yn allweddol o ran cefnogi'r gwaith hwn a darparu cymorth i gymheiriaid.
Beth sy'n dod â ni ynghyd?
Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o gynhwysiant sy'n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn.
I gefnogi'r Coleg i fod yn gymuned sy'n llawn parch, mae gennym gr"{p llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwrandewch ar ein Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn siarad am y rhesymau eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant - Dolen yn y ddogfen ynghlwm.
Mae eich lles o bwys
Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno sicrhau y gallwch chi wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a chyrraedd eich potensial llawn. Mae rhaglen o weithgareddau lles drwy gydol y flwyddyn ac mae'r ap Headspace ar gyfer yr holl staff yn sail i hynny. Mae'n cynnwys detholiad amrywiol o fyfyrdodau ar gyfer anghenion dechreuwyr a'r rhai mwy profiadol. Hefyd, mae gennym ni Bartneriaid sy'n hyrwyddwyr iechyd meddwl hyfforddedig a mynediad cymorthdaledig at gampfa. Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy'n cefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pawb.
Dyddiad Cau: 27/07/25
Dyddiad Cyfweliad: 20/08/25