MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Dosbarth Lefel 2 a Cynorthwydd Goruchwyliwr Amser Cinio Dros Dro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Llan-y-pwll
Ffordd Parc Borras
Wrecsam
LL12 7TH
Pennaeth: Mrs Rhiannon James
headteacher@ysgolllanypwll-pri.wrexham.sch.uk

Cymhorthydd Addysgu Lefel 2 a Goruchwyliwr Amser Cinio
Swydd Dros Dro Cyfnod Mamolaeth
(30 Awr yr wythnos)
Mae'r ròl mewn dwy ran :

27 awr a hanner (Cymhorthydd Dosbarth)
G04 £15,375 - £15,619 y flwyddyn
2 awr a hanner yr wythnos (Goruchwyliwr amser cinio)
G02 £1,333 y flwyddyn

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. DIM GWYLIAU YN YSTOD Y TYMOR
I ddechrau Medi'r 1af 2025.

Mae Ysgol Llan-y-pwll yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 2 i ymuno â'n tîm croesawgar ac i weithio yn y dosbarth Meithrin a Derbyn. Os ydych chi eisiau gweithio mewn amgylchedd cefnogol, hapus ac arloesol ymunwch gyda ni yma yn Ysgol Llan-y-pwll.

Oriau'r swydd yw 9:00yb tan 3:30yp, gyda hanner awr o doriad amser cinio.

Mae oriau ychwanegol ar gael yn y clwb Brecwast a'r clwb ar ôl ysgol hefyd os dymunir.

Swydd Cymhorthydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwdfrydig, egnïol, hwyliog, cefnogol, yn fodel rôl dda ac yn rhugl yn y Gymraeg. Byddwch yn gweithio dan gyfarwyddyd uniongyrchol yr athro/athrawes ddosbarth ac yn cefnogi mynediad y disgyblion i addysg, gan gynnwys :-

Cynorthwyo gyda gosod yr amgylchedd dosbarth

Cynorthwyo grwpiau o ddisgyblion mewn gwaith grŵp

Cefnogi dysgwyr yn yr ardaloedd ac wrth iddynt gwblhau heriau

Cefnogi unigolion lle bo angen

Rhannu gwybodaeth am gynnydd y disgyblion gyda'r athro dosbarth

Dilyn cyfarwyddyd gan yr athro ddosbarth a chadw at drefniadau'r ysgol e.e. rheoli ymddygiad

Mae pecynnau cais ar gael i'w lawr lwytho o www.wrecsam.gov.uk/swyddi, neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol drwy e-bost: hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu ffonio: 01978 297403.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar headteacher@ysgolllanypwll.pri.wrexham.sch.uk neu 01978 594101

ANFONWCH Y FFURFLENNI CAIS YN ÔL WEDI EU LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL AR YR E-BOST UCHOD

Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob swydd mewn Ysgol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.