MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Wrexham,
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Disgrifiad
Ysgol Cae'r Gwenyn
Ffordd y Tywysog Siarl
Wrecsam LL13 8TH
Ffon: 01978 356177
mailbox@ysgolcaergwenyn.wrexham.sch.uk
Pennaeth Interim Dros Dro: Mrs Liz Jones
Athro ADY
MPA/UPS
Llawn Amser Dros Dro
01/09/2025 - 31/12/2025
Mae Llywodraethwyr Ysgol Cae'r Gwenyn yn dymuno penodi Athro ADY ar gyfer ein darpariaeth asesu blynyddoedd cynnar. Mae'r ddarpariaeth yn cwmpasu plant Meithrin a Derbyn gydag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod yn rhan o'n tîm ymroddedig, gofalgar sy'n datblygu, ac yn cofleidio ein hethos wrth i'r ysgol ddechrau ar bennod newydd gyffrous yn ei datblygiad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
• Yn dangos diddordeb ac angerdd brwd am weithio gyda phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, sydd yn hanfodol.
• Bydd angen tystiolaeth o'r ffordd y mae wedi gweithio'n llwyddiannus gyda rhieni/gofalwyr a rhanddeiliaid eraill, gan ddilyn y dull Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar y Person, i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant.
• Os ydych yn dymuno gwneud cais am secondiad o'ch swydd bresennol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi derbyn caniatâd ysgrifenedig gan eich Pennaeth cyn cyflwyno'r cais.
Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.
Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
Mailbox@ysgolcaergwenyn.wrexham.sch.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadaugan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Dyddiad Cau: 27/06/2025