MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Glan y Môr, Pwllheli,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Technegydd Ysgol Glan y Môr

Cyngor Gwynedd

Cyflog: Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

Ysgol Glan y Môr, Pwllheli

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 507 o ddisgyblion)





Yn eisiau: ar gyfer: 1 af o Fedi, 2025

Technegydd Technoleg Gwybodaeth a Safle

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas. Bydd y Technegydd yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau TGCh yr ysgol ac mewn cydweithrediad â TG Gwynedd yn cynorthwyo gyda'r ochr weinyddol.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 £25,584 - £27,269 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mr Guto Wyn

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN 30 O FEHEFIN, 2025

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

Manylion Person

MANYLEB PERSON

TECHNEGYDD TECHNOLEG GWYBODAETH A SAFLE

Profiad

  • O weithio gyda systemau technoleg gwybodaeth

Cymwysterau

Yn hanfodol :

  • Yn rhugl ddwyieithog

Yn ddymunol:

  • Unrhyw Hyfforddiant gan Gwmni Microsoft.
  • Cymhwyster/au mewn Technoleg Gwybodaeth.


Gwybodaeth/Sgiliau
  • Yn meddu ar sgiliau TGCh cadarn.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir.
  • Yn gydwybodol a brwdfrydig.
  • Yn barod i gydweithio a chynnig arweiniad i eraill.
  • Yn barod i gydweithio â disgyblion.
  • Yn abl i weithio'n annibynnol.
  • Yn weinyddwr trefnus.
  • Y gallu i osod cyfrifiaduron/gliniaduron/chromebooks ac ipads.
  • Byddai gwybodaeth am Raglenni Windows yn ddymunol.
  • Y gallu i ddatrys problemau cyfrifiadurol yn ddymunol.
  • Byddai dealltwriaeth a phrofiad o Microsoft Office 365 yn ddymunol ond nid yn hanfodol


  • Swydd Ddisgrifiad

    Swydd ddisgrifiad: Technegydd Technoleg Gwybodaeth a Safle

    Rheolwr llinell:

    Y Rheolwr Busnes

    Oriau gweithio:

    37 awr yr wythnos . Rhoddir ystyried i ymgeiswyr sydd yn awyddus i weithio yn rhan amser neu yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

    Graddfa gyflog:

    Pwyntiau 7-11 ar raddfa cyflog gweithwyr llywodraeth leol.

    Pwrpas y swydd:

    Bydd y Technegydd yn gyfrifol am sicrhau gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau TGCh yr ysgol ac mewn cydweithrediad â TG Gwynedd yn cynorthwyo gyda'r ochr weinyddol.

    Dyletswyddau:

  • Rhagweld problemau meddalwedd a chaledwedd a'u datrys a datrys problemau sy'n codi'n ddirybudd.
  • Cynnal a chadw holl offer TGCh yr ysgol.
  • Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch y rhwydwaith rhag feirws ac ati a mynediad heb ganiatâd.
  • Cyfrifoldeb am drefnu hawliau mynediad i'r rhwydwaith a monitro'r defnydd ohoni.
  • Cyfrifoldeb am gadw copïau wrth gefn o ddata disgyblion a staff yn rheolaidd.
  • Gosod ac uwchraddio meddalwedd ar systemau'r ysgol.
  • Cyfrifoldeb am reoli systemau drysau'r ysgol.
  • Cyfrifoldeb am reoli system teledu cylch cyfyng yr ysgol.
  • Cyfrifoldeb am reoli defnydd/mynediad at y llungopïwr.
  • Cadw cofnod o holl offer TGCH yr ysgol.
  • Cadw cofnod o holl feddalwedd a thrwyddedau'r ysgol.
  • Cynorthwyo, cefnogi a chyfarwyddo athrawon unigol.
  • Cyfrifoldeb penodol am ystafelloedd cyfrifiadurol yr ysgol.
  • Cydweithio â TG Gwynedd a'r Rheolwr Busnes yr ysgol pan fydd angen sylw i system TGCH gweinyddol yr ysgol.
  • Cydweithio gyda holl staff yr ysgol i gynnal awyrgylch ddiogel gynhaliol i ddisgyblion dros amseroedd egwyl a chinio'r disgyblion.
  • Yn dilyn ymgynghoriad, ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau perthnasol a rhesymol eraill ar gais y Pennaeth neu'r Rheolwr Busnes.


    • Ceisio ar lein - Sut?
    • Rhestr Swyddi