MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: NJC G05 pwynt 12 - 19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: NJC G05 pwynt 12 - 19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
Ysgol Porth y FelinYsgol Gynradd Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru
Ffordd Llanrwst , Conwy LL32 8FZ
Ffon: 01492 572220
Pennaeth: Mr Paul Thomas
Yn eisiau erbyn mis Medi 2025
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL UWCH PARHAOL
(Lles disgyblion)
32.5 awr, tymor ysgol a 5 diwrnod hyfforddiant
Cyflog: NJC G05 pwynt 12 - 19 £20,945 - £23,482 y flwyddyn
Mae Llywodraethwyr Ysgol Porth y Felin yn ceisio penodi Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch i gefnogi lles, cynhwysiant a datblygiad emosiynol a chymdeithasol disgyblion a nodwyd. Bydd y Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch yn gweithio gydag unigolion a grwpiau bach yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi, gan hyrwyddo ymgysylltiad, gwella hunan-barch, a helpu disgyblion i oresgyn rhwystrau i ddysgu. Mae'r rôl yn cynnwys darparu ymyriadau wedi'u teilwra, cefnogi cyfnodau pontio, a gweithio'n agos gyda staff, rhieni, ac asiantaethau allanol.
Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur.
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English