MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Pay Scale Within: L11 - L17: £64,993 - £75,111
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: L11 - L17: £64,993 - £75,111
Yn ofynnol ar gyfer mis Ionawr 2026Pennaeth Ysgol Gynradd Llandyfái
Gradd: L11-17
Grŵp: 2
Nifer ar gofrestr yr ysgol: 176
Mae'r plant, y staff, y teuluoedd a'r llywodraethwyr am benodi pennaeth ysbrydoledig, ymroddedig ac uchelgeisiol a fydd yn adeiladu ar arweinyddiaeth lwyddiannus ein pennaeth sy'n ymddeol ac yn arwain ein hysgol wych i ddyfodol hyd yn oed yn well.
Rydym yn chwilio am bennaeth neu uwch-arweinydd profiadol sydd â hanes blaenorol cryf o gyflawni cynnydd a safonau dysgu rhagorol ar draws ysgol gyfan, trwy ddiwallu anghenion pob disgybl mewn modd cynhwysol iawn. Bydd ein pennaeth newydd yn llawn cymhelliant i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bob plentyn ac yn galluogi pob aelod o staff i ffynnu trwy barhau i wella eu heffaith ar gynnydd a llesiant disgyblion ac yn disgwyl iddynt wneud hynny.
Ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i blant rhwng 3 ac 11 oed, yng nghanol y gymuned leol yn Sir Benfro yw Ysgol Gynradd Llandyfái. Mae'r staff sefydledig a gofalgar yn blaenoriaethu cynnydd a llesiant pob plentyn. Mae cymuned yr ysgol yn ymfalchïo yn yr ethos a'r gwerthoedd cadarnhaol sy'n treiddio ledled yr ysgol, gan adlewyrchu gweledigaeth yr ysgol.
Mae cyngor yr ysgol wedi paratoi'r neges hon ar gyfer ymgeiswyr sydd â diddordeb.
A message to our new Headteacher.mp4
Rydym yn chwilio am Bennaeth a fydd yn:
- Arwain trwy esiampl, gan gynnwys yn ystod ymarfer rhagorol fel rhan o ymrwymiad addysgu.
- Adnabod pob plentyn a diwallu eu hanghenion ag empathi.
- Ennyn brwdfrydedd ac yn ysbrydoli staff a phlant i fod y gorau y gallant fod yn unigol ac ar y cyd, gan adeiladu ar ein cryfderau presennol trwy ddiwylliant agored ac ymddiriedus.
- Datblygu ein hysgol fel sefydliad dysgu drwy arweinyddiaeth gref, gydweithredol a thrawsnewidiol.
- Dod ag amrywiaeth o sgiliau a gwybodaeth i'n harwain wrth ddatblygu ein cwricwlwm ymhellach, gan gynnwys angerdd dros ddysgu yn yr awyr agored.
- Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant i ddatblygu ein sgiliau dwyieithog a'n mwynhad o fyw yn Sir Benfro.
- Gweithio'n adeiladol gyda theuluoedd a'r gymuned leol.
- Meddu ar y penderfyniad a'r gwydnwch i ymdopi â'r heriau a'r cyfleoedd strategol a gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rôl allweddol hon.
Yr hyn y gallwn ei gynnig i chi:
- Cymuned ysgol gref sydd wedi ymrwymo i wneud ei gorau dros bob plentyn, sy'n cael ei chefnogi a'i gwerthfawrogi gan y gymuned leol.
- Disgyblion ymrwymedig, brwdfrydig a thosturiol.
- Tîm staff cydlynus sydd â disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain, staff eraill a phlant.
- Corff llywodraethu profiadol â ffocws sy'n darparu cefnogaeth a her yn gyson.
- Cyfleoedd datblygiad proffesiynol ystyrlon a chefnogaeth i gyflawni hyn, gan gynnwys gan yr awdurdod lleol, a chydlafurio ysgol i ysgol sefydledig o fewn y clwstwr lleol a rhwydweithiau ehangach, fel Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro.
Datganiad Diogelu
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor. Mae Ysgol Gynradd Llandyfái wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am unrhyw ymholiadau neu i drefnu ymweliad, anfonwch e-bost at admin.lamphey@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbym ceisiadau - Hanner nos dydd Llun, 30 Mehefin 2025
Llunio'r rhestr fer - Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2025.
Proses ddethold dau ddiwrnod - Dydd Mercher, 9 Gorffennaf 2025 a Dydd Iau, 10 Gorffennaf 2025.
Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.