MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd â gofal - Bodhyfryd

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

PRIF GOGYDD -BODHYFRYD

Colofn Dâl G04 Pwyntiau 4 - 5

£24,404 - £24,790 yn ôl cyfrannedd
£13.47 - £13.69 yr awr

YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG

27.5 awr yr wythnos (tymor sefydlog)

Mae angen cogydd cymwys i reoli'r gwaith arlwyo yn yr ysgol gynradd hon. Ceir y posibilrwydd o ddatblygu'r gwasanaeth a bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan weithredol yn hyn o beth.
Bydd prif ddyletswyddau'r swydd uchod yn cynnwys:-

1.Rheoli'r gwasanaeth o fewn y cyllidebau a ddyrennir i dalu am gostau bwyd a llafur.

2.Dyletswyddau coginio medrus a dealltwriaeth o arferion coginio iachus.

3.Goruchwylio gweithwyr eraill, gan gynnwys rhannu dyletswyddau, gosod rota gwaith a hyfforddiant.

4.Goruchwylio'r gwasanaeth bwyd, rheoli dognau a chyflwyno bwyd.

5.Dyletswyddau clercol cysylltiedig.

6.Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.

7.Hyrwyddo'r gwasanaeth bwyd i gwsmeriaid.

8.Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Cewch lenwi ffurflen gais ar-lein neu ofyn am becyn cais oddi wrth: Susan Thomas, Adain Gwasanaethau Cefnogol, Adran Tai a'r Economi, Ffordd Rhuthun, Wrecsam. LL13 7TU -Rhif ffôn: 01978 315647.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Y DYDDIAD CAU : 29/06/2025

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.