MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 9 Pwynt 23 i Bwynt 25 £33,366 i £35,235 y flwyddyn ar gyfartaledd £17.29 i £18.26 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefe Uwch 4 - Ysgolion Arbennig yn Unig (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 9 Pwynt 23 i Bwynt 25 £33,366 i £35,235 y flwyddyn ar gyfartaledd £17.29 i £18.26 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu Lefe Uwch 4 - Ysgolion Arbennig yn Unig (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad

Mae dwy swydd ar gael

YSGOL PENMAES
CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL UWCH x 2
32.5 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig
Dyddiad dechrau: Medi 2025
Fel rhan o strategaeth hirdymor mae'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi dau Gynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch. Rydym yn chwilio am staff sydd ag ymrwymiad, egni, brwdfrydedd ac ysgogiad i ddarparu profiadau dysgu cadarnhaol i'n holl ddisgyblion. Efallai y bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio rhwng y brif ysgol a'r ddarpariaeth lloeren yn dibynnu ar
anghenion yr Ysgol
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi ennill statws CALU.
Darllenwch yr hysbyseb hwn ar y cyd â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Disgwyliwn i'r ymgeisydd llwyddiannus:
● Fedru cefnogi'r broses o gyflwyno profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl a cheisio gwneud dysgu'n brofiad cyffrous a chadarnhaol.
● Ysbrydoli ac ysgogi ein disgyblion a dangos ymrwymiad i godi cyrhaeddiad
disgyblion gyda disgwyliadau uchel o ddysgu.
● Cyfrannu'n weithredol at bennu a monitro targedau Darpariaeth Ddysgu
Ychwanegol;
● Gallu defnyddio eich menter eich hun i wella ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion;
● Cael profiad o gynllunio a chyflwyno gwersi;
● Bod yn arloesol, creadigol ac uchelgeisiol fel model rôl da i ddisgyblion a staff eraill;
● Bod yn gefnogol, meithrin a deall gyda disgwyliadau uchel o ymddygiad cadarnhaol.
● Cyfathrebu'n dda gyda rhieni, gofalwyr a chydweithwyr yn ogystal â disgyblion.
● Dangos sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig.
● Gweithio'n dda fel rhan o dîm;
● Bod yn barod i gyfrannu at fywyd yr ysgol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
● Bod â'r awydd i wneud cyfraniad sylweddol a pharhaus tuag at ethos a
gweledigaeth ein hysgol;
● Cael profiad helaeth o weithio gyda disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol;
● Bod yn barod i gynorthwyo gyda gofal personol (darperir hyfforddiant ar gyfer codi a chario);
● Cyflenwi ar gyfer sesiynau CPA wythnosol lle y tybir bod hynny'n angenrheidiol ac yn briodol
● Rheoli a chefnogi disgyblion ag ymddygiad heriol (darperir hyfforddiant) gan gynnwys cyfrannu at Gynlluniau Cymorth Unigol yn ogystal â chadw atynt
● Cefnogi'r gwaith o gynllunio ymweliadau oddi ar safle
Yn gyfnewid am hyn byddwch yn derbyn:
● Cefnogaeth cydweithwyr ymroddedig, brwdfrydig ac ymroddedig
● Amgylchedd gwaith cefnogol a phroffesiynol
● Cefnogaeth ar gyfer eich datblygiad proffesiynol parhaus
Dyddiad cau: 29ain Mehefin 2025