MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb : Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Dechrau: Heb ei ddarparu
  • Dyddiad Gorffen: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog : Per annum
  • Cyflog : £27,709 - £29,542 | Grade 4
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 08 Tachwedd, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 – Ysgol Croesyceiliog

Torfaen Local Authority

Cyflog: £27,709 - £29,542 | Grade 4

Mae gennym swydd wag, gyffrous, ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu i ymuno â'n tîm cymorth prysur ac ymroddgar yma yn Ysgol Croesyceiliog.

Mae ein tîm o Gynorthwywyr Addysgu yn gweithio gydag ystod o ddisgyblion mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae rhai yn rhoi cymorth 1 i 1, ac eraill yn gweithio mewn dosbarth yn rhoi cymorth i nifer o ddysgwyr y mae gan rhai ohonynt anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi disgyblion drwy gydnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt. Gellir gofyn iddynt weithio gyda phlentyn unigol neu mewn grŵp ar raglen waith wedi'i chynllunio, dan gyfarwydd athro dosbarth. Bydd gofyn iddynt feithrin cyswllt â rhieni/gofalwyr lle bo hynny'n briodol, gan roi gwybod iddynt am ymddygiad eu plentyn, a meithrin perthynas gadarnhaol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ofalu am ddisgyblion a rhoi cefnogaeth iddynt, eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwaith yn yr ystafell ddosbarth, a'u helpu i gadw at y dasg dan sylw.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn ysgol brif ffrwd neu leoliad sy'n arbenigo mewn ymddygiad. Bydd angen gwybodaeth a dealltwriaeth am egwyddorion datblygiad plant a rhwystrau i ddysgu.

Os ydych chi'n frwdfrydig ac yn weithgar, os oes gennych angerdd am weithio gyda phobl ifanc, a'r profiad a'r sgiliau sydd eu hangen, yna edrychwn ymlaen at dderbyn cais gennych.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.