MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa G02 NJC pwynt 4 - 5 £17,026 - £17,296 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthyd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Llandrillo yn Rhos

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa G02 NJC pwynt 4 - 5 £17,026 - £17,296 y flwyddyn

Ysgol Llandrillo yn Rhos

Ffordd Elwy, Llandrillo-yn-Rhos LL28 4LX

Ffôn: 01492 549648

Pennaeth: Mrs Nicola Rowlands

Yn eisiau erbyn mis Medi 2025

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 2 PARHAOL

Oriau: 30 awr yr wythnos tymor ysgol yn unig + 5 diwrnod hyfforddiant

Cyflog: Graddfa G02 NJC pwynt 4 - 5 £17,026 - £17,296 y flwyddyn

Mae Llywodraethwyr Ysgol Llandrillo yn Rhos yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr brwdfrydig ar gyfer y swydd uchod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi mynediad i ddysgu ar gyfer disgyblion ac yn darparu cefnogaeth gyffredinol i'r athro wrth reoli'r disgyblion hyn. Mae'n ddymunol bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad perthnasol

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar (01492) 549648

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr dybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English