MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,409 - £27,269 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Achlysurol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £26,409 - £27,269 y flwyddyn

Hyfforddwr Achlysurol
Disgrifiad swydd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrthi'n chwilio am hyfforddwyr chwaraeon/gweithgareddau brwdfrydig i ddarparu sesiynau ar ran y tîm Atal a Llesiant.
Rydym yn chwilio am hyfforddwyr chwaraeon/gweithgareddau egnïol ac angerddol a fydd yn cynllunio, yn paratoi ac yn cyflwyno rhaglen gydgysylltiedig o weithgareddau ar draws y gwasanaeth sy'n gynhwysol ac yn ddifyr i gyfranogwyr ac sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer dilyniant.

Bydd yr hyfforddwr yn arwain y gwaith o ddarparu gweithgareddau ar draws y gwasanaeth atal a llesiant, gan weithio gydag amrywiaeth eang o gyfranogwyr sydd ag anghenion gwahanol mewn amrywiaeth o leoliadau. Bydd yr hyfforddwr yn sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu gweithredu yn unol â'r safonau a systemau gwaith a argymhellir.

Byddai'r swydd yn gofyn am weithio symudol ar draws nifer o leoliadau gwahanol yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.

Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 24 & 25 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person