MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Gwenfro Community Primary

Queensway

Wrecsam

01978 340380

Pennaeth: Mrs. K Owen-Jones

CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 2

G04 £15,777 - £16,02727.5 awr yr wythnos

AMSER TYMOR YNGHYD Â DIWRNODAU HYFFORDDIDechrau Hydref 2025 - Dros dro tan 31 Awst 2026

Mae'r Corff Llywodraethu am benodi dau Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 yn ein darpariaeth Adnoddau Cyfnod Sylfaen i weithio o dan gyfarwyddyd/arweiniad addysgu/uwch staff i ymgymryd â rhaglenni gwaith/gofal/cymorth, i alluogi disgyblion i gael mynediad at ddysgu ac i gynorthwyo'r athro wrth reoli disgyblion a'r ystafell ddosbarth. Gallai'r gwaith gael ei wneud yn yr ystafell ddosbarth neu y tu allan i'r prif ardal addysgu.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod. Mailbox@gwenfro-pri.wrexham.sch.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 19 Mehefin 2025

CYFWELIADAU: 26 Mehefin 2025