MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu lefel 1

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Gynradd Gymunedol Alexandra,

Bodhyfryd,

Wrecsam,

LL12 7AZ

Pennaeth: Mrs Lisa Roberts

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1

27 awr yr wythnos, 5 diwrnod

G03 £ 15,013 - £15,249 y flwyddyn

Ei angen o 1 Medi 2025 neu cyn gynted â phosib wedi hynny. Dros dro tan 31 Mawrth 2026 i ddechrau gyda phosibilrwydd o gael ei ymestyn.

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi cymhorthydd addysgu hyblyg, brwdfrydig a llawn cymhelliant i weithio yn ein hysgol fendigedig.

Bydd yr aelod o staff a benodir yn gweithio fel rhan o dîm mawr, o fewn ein Darpariaethau Adnoddau Arbenigol, yn cefnogi plant sydd ag anghenion cymhleth ychwanegol. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ADY yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â Lisa Roberts (Pennaeth) yn yr ysgol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

LLENWCH Y FFURFLEN GAIS A'I HANFON YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg