MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Maesincla, Caernarfon,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £13,803 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £13,803 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
Yn eisiau mor fuan a phosib
Cogydd Cynorthwyol Ysgol Maesincla
I paratoi a gweini'r bwyd, a dyletswyddau cyffredinol y gegin 25 awr yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol
GS2 3-4 £12.45 - £12.64 yr awr (£10.42 - £10.58 wedi ei gyfartalu)
Cyflog wythnosol - £260.50 - £264.50
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus a byddwch yn derbyn e-bost gan 'noreply@employmentcheck.org.uk' i cwblhau ffurflen DBS ar lein.
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg neu Saesneg a bydd ceisiadau yn cael ei drin yn gwbl gyfartal
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Dyddiad Cau: 23/06/2025
Ffurflenni cais oddi wrth ac i'w dychwelyd i: Gwasanaeth Cefnogol, Cefnogaeth Gorfforaethol, Caernarfon. Rhif Ffôn 01286 679076
Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Personoliaeth hyderus, hapus a brwdfrydig.
DYMUNOL
Bod yn gymdeithasol a dangos parch tuag at eraill
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster Hylendid bwyd (Lefel 2 neu uwch)
Wedi cwblhau cwrs alergerdd bwyd (FSA)
Cymhwyster coginio neu gweithio tuag at
Hyfforddiant mewn sgiliau coginio
DYMUNOL
Cymhwyster goruchwylio staff
Hyfforddiant mewn sgiliau gweini bwyd
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu gymorth cyntaf
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio yn y maes arlwyo.
Y gallu i weithio fel rhan o dim a ymdrin a staff yn effeithiol.
Y gallu i gadw cofnodion cywir a thaclus.
DYMUNOL
Profiad o archebu cyflenwad bwyd a chadw stoc
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau paratoi bwyd sylfaenol.
Medru ymateb yn sydyn ac ymdrin ag unrhyw sefyllfa sy'n codi.
Profiad o weithio fel rhan o dîm a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol mewn grŵp.
Sgiliau cyfathrebu da - hyderus yn ymdrin a phlant a athrawon.
Yn hoffi gweithio mewn awyrgylch plant.
DYMUNOL
Gwybodaeth o fwyd iach a maethlon
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir. Gallu dilyn cyfarwyddiadau a deall rhediad sgwrs syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd ac ymateb i geisiadau syml am wybodaeth.
Darllen a Deall - Lefel Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Lefel Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Paratoi a trefnu bwyd maethlon ar gyfer disgyblion.
• Mae'r ysgol hon wedi ymrwymo i diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl Ifanc ac mae'r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Staff
• Offer
Prif ddyletswyddau
• Rhoi cymorth cyffredinol yn y gegin a'r ffreutur o fan gyfarwyddyd y Cogydd mewn Gofal.
• Darparu bwyd - gan gynnwys rheoli maint prydau, paratoi bwydydd, coginio a gweini bwyd.
• Cynorthwyo'r cogydd i gadw cofnodion o unrhyw stoc a ddefnyddir.
• Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd sy'n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld â'r safle.
• Sicrhau fod holl staff Arlwyo yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi'r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.
• Arolygu a rheoli glanweithdra, iechyd a diogelwch.
• Cwblhau y llyfrau cofnodion megis llyfr log yn ddyddiol.
• Cymryd gofal o'r gegin yn ystod absenoldeb y cogydd oherwydd salwch neu am unrhyw reswm arall am y tâl priodol.
• Gweithredu'r til gan ddilyn dull a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr
• Unrhyw ddyletswydd arall yn ôl cais rhesymol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Ceir amgylchiadau pryd gofynnir am luniaeth tu allan i oriau gwaith e.e. hyfforddiant mewnol. Disgwylir i'r Cogydd Cynorthwyol gyflenwi yn lle'r cogydd yn ei habsenoldeb
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi