MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Brynrefail, Llanrug,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £49,944 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 16 Mehefin , 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Aml-Bynciol- Ysgol Brynrefail

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £49,944 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG

(Gyfun 11 - 18 oed, 771 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi, 2025.
ATHRO/ATHRAWES AML-BYNCIOL (DROS DRO)

(CYTUNDEB BLWYDDYN)

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol i addysgu ar draws y cwricilwm yng Ngyfnodau allweddol 3 yn bennaf. Mae Ysgol Brynrefail yn ysgol blaengar a llwydiannus. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd wedi cynhwyso fel athrawon uwchradd a cynradd.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49.944) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person. Mae'r gallu a'r profiad i addysgu'r agwedd Dechnoleg o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ddelfrydol ond nid yw'n angenrheidiol.

Gwahoddir unrhyw un sydd a diddordeb neu angen mwy o wybdaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth mewn gofal, Miss Zoe L Jones, rhif ffon 01286 672381 neu ebost drwy'r Rheolwr Busnes sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno i'r Rheolwr Busnes a Chyllid, Mrs Angharad Parry Davies, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381; e-bost : sg@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD LLUN, 16eg o Fehefin, 2025.

Bwriedir cynnal y cyfweliadau Dydd Mercher, 18fed Fehefin 2025.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a temporary (one year contract) multi-subject teacher at Ysgol Brynrefail, Llanrug for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school ).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Mae dyletswyddau manwl swydd athro/awes wedi eu nodi yn y ddogfen 'Tâl ac Amodau Gwaith Athrawon 2014'. Ceir crynodeb isod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu amrywiaeth o bynciau ar draws y cyfnodau allweddol.

Addysgu

1.1 Dilyn cwricwlwm yr ysgol er mwyn datblygu gallu a sgiliau pob disgybl mewn unrhyw ddosbarth a roir dan ei ofal gan y Pennaeth, drwy:
  • gynllunio a pharatoi cyrsiau a gwersi,
  • addysgu, yn ôl eu anghenion addysgol, y disgyblion a roir dan ei ofal, gan gynnwys gosod, a marcio, gwaith i'w gwblhau yn yr ysgol, a'r tu allan i'r ysgol,
  • asesu, cofnodi, ac adrodd ar ddatblygiad, cynnydd, a chyrhaeddiad disgyblion o dan ei ofal.

Gweithgareddau eraill

2.1 Hyrwyddo cynnydd cyffredinol a llês disgyblion unigol, ac unrhyw ddosbarth neu grŵp a roir dan ei ofal.

2.2 Cynghori disgyblion ar faterion addysgol a chymdeithasol, ac ar eu haddysg bellach a'u gyrfaoedd, a gwneud cofnodion ac adroddiadau perthnasol.

2.3 Cofnodi ac adrodd ar anghenion personol a chymdeithasol disgyblion.

2.4 Cysylltu ac ymgynghori gyda rhieni disgyblion.

2.5 Cysylltu a chydweithio gyda phersonau, neu gyrff, y tu allan i'r ysgol.

2.6 Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a drefnir ar gyfer unrhyw rai o'r uchod.

Asesu ac adrodd

3.1 Gwneud asesiadau llafar ac ysgrifenedig, ac adroddiadau perthnasol i ddisgyblion unigol, neu grwpiau o ddisgyblion.

Rheoli Perfformiad

4.1 Cymryd rhan mewn trefniadau rheoli perfformiad yn unol â threfniadau'r ysgol.

Adolygu, Anwytho, Hyfforddiant a Datblygiad Pellach

5.1 Adolygu'n rheolaidd ei ddull o weithio, a'i raglenni gwaith.

5.2 Cymryd rhan mewn trefniadau er hyrwyddo ei hyfforddiant pellach a'i

ddatblygiad proffesiynol fel athro, gan gynnwys hyfforddi a datblygiad

proffesiynol sy'n anelu i gyfarfod anghenion a nodwyd mewn amcanion

rheoli perfformiad, neu o dan y drefn reoli perfformiad.

5.3 Yn achos athro ar gyfnod anwytho, cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer ei hyfforddiant a'i arolygu.

Dulliau Addysgol

6.1 Cydweithio gyda'r Pennaeth ac athrawon eraill ar baratoi a datblygu cyrsiau astudio, deunyddiau addysgu, rhaglenni addysgu, dulliau addysgu ac asesu, a threfniadaeth fugeiliol.

Disgyblaeth, Iechyd a Diogelwch

7.1 Cadw rheolaeth a disgyblaeth dda ar y disgyblion, gan ddiogelu eu hiechyd a'u diogelwch, pan fyddant ar safle'r ysgol yn swyddogol, neu pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol awdurdodedig oddi ar y safle.

Cyfarfodydd Staff

8.1 Cymryd rhan mewn cyfarfodydd sy'n berthnasol i gwricwlwm yr ysgol, neu i weinyddiaeth, neu drefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys trefniadau bugeiliol.

Gwarchod

9.1 Yn amodol i ofynion y Cytundeb Lleihau Baich Gwaith Athrawon ar 'prin gyflenwi', gwarchod a, lle bo'n ymarferol, addysgu, disgyblion athro arall nad yw ar gael i'w haddysgu.

Arholiadau Allanol

10.1 Cymryd rhan mewn trefniadau i addysgu disgyblion ar gyfer arholiadau allanol, asesu disgyblion ar gyfer arholiadau allanol, a chofnodi ac adrodd ar hynny, a chyfrannu mewn trefniadau ar gyfer cyflwyno gwaith disgyblion, a chynnal, neu arwain, arholiadau allanol.

Gweinyddu

11.1 Cymryd rhan mewn tasgau gweinyddol a threfniadol sy'n berthnasol i'r hyn a nodir uchod, gan gynnwys cyfarwyddo neu arolygu personau sy'n cefnogi athrawon yn yr ysgol.

11.2 Mynychu gwasanaethau, cofrestru presenoldeb disgyblion, ac arolygu disgyblion, cyn, yn ystod, ac ar ôl sesiynau ysgol.

Dyletswyddau Penodol Eraill:
  • chwarae rhan llawn ym mywyd cymunedol ac allgyrsiol yr ysgol, cynorthwyo ei chenhadaeth ac ethos nodedig ac annog staff a myfyrwyr i ddilyn yr esiampl hon.
  • cynorthwyo'r ysgol i gwrdd a'i gofynion cyfreithiol am addoli.
  • hyrwyddo holl bolisïau yr ysgol.
  • parhau â datblygiad proffesiynol personol fel y cytunwyd arno drwy'r drefn rheoli perfformiad.
  • cydymffurfio â pholisi iechyd a diogelwch yr ysgol ac ymgymryd ag asesiadau risg fel sy'n briodol.
  • ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall a nodir yn y 'Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol' diweddaraf na sonnir amdani uchod.
Sylwer:
  • tra bod pob ymdrech wedi'i gwneud i esbonio prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd, efallai nad yw pob tasg unigol wedi'i nodi.
  • nid yw'r swydd ddisgrifiad hon yn ffurfio rhan o gytundeb cyflogaeth.
  • disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan reolwr i ymgymryd â gwaith o lefel debyg nad yw wedi'i nodi yn y swydd ddisgrifiad hon.
  • bydd yr ysgol yn gwneud pob ymdrech i gyflawni unrhyw addasiadau rhesymol i'r swydd a'r amgylchfyd gwaith i alluogi mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ar gyfer ymgeiswyr anabl neu gyflogaeth barhaol ar gyfer cyflogai sy'n datblygu cyflwr sy'n anablu.
  • mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a ddangosir, ond yn dilyn ymgynghori â chi, gellir ei newid gan reolwr er mwyn adlewyrchu neu ragweld newidiadau yn y swydd sy'n gymesur â'r cyflog/lwfans a theitl y swydd.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi