MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,183 Pro Rata | Grade 3
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwywyr Addysgu Lefel 1 (Llesiant) - Ysgol Crownbridge
Torfaen Local Authority
Cyflog: £25,183 Pro Rata | Grade 3
SWYDD BARHAOL / DROS DRO 32.5 AWR YR WYTHNOS / RHAN AMSER AR GAELDYDD LLUN I DDYDD GWENER - 9.00 AM I 4.00 PM.
Bydd ymgeiswyr yn cefnogi disgyblion rhwng 2 a 19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol a chymhleth. Dylech fod yn ddibynadwy, yn wydn ac yn hyblyg a gweithio'n dda fel rhan o dîm.
Dylai fod gan bob ymgeisydd:-
- Brofiad o blant / pobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig;
- Profiad o ofalu am anghenion gofal personol plant ac oedolion ifanc; font-size:12pt">Y gallu i gefnogi llesiant / datblygiad emosiynol disgyblion; font-size:12pt">Y gallu i ddilyn cyfarwyddyd ac awydd i hyrwyddo eu datblygiad proffesiynol; font-size:12pt">Brwdfrydedd ac ymagwedd gydwybodol; font-size:12pt">Y gallu i groesawu newid a chyfrannu at ddatblygiad yr ysgol
Mae'r swyddi hyn yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd ymuno â thîm arloesol, bywiog a gweithgar.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, anfonwch e-bost at Sue.Kempton@torfaen.gov.uk .
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol.Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed a'i hyrwyddo . Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.