MANYLION
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Hourly rate: £12.65 - £12.85 | Grade 2
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cynorthwyydd Arlwyo Cyflenwi (Cyfoethogi Gwyliau) - Amrywiaeth o Safleoedd
Torfaen Local Authority
Cyflog: Hourly rate: £12.65 - £12.85 | Grade 2
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a brwdfrydig iawn sy'n llawn ysgogiad, i ymuno â'r Tîm Arlwyo Ysgolion fel gweithiwr cyflenwi. Byddwch yn helpu trwy gyflenwi mewn ysgolion gwahanol i gynnal profiad pleserus i blant sy'n bwyta cinio yn yr ysgol.
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn gallu cynorthwyo ym mhob rhan o'r gegin i gyrraedd y safonau gofynnol, gan gynnwys paratoi bwyd, gweini prydau blasus, glanhau'r gegin a'r neuadd fwyta a gwybod rhywfaint am Reoliadau Diogelwch Bwyd.
Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, bydd angen sgiliau cyfathrebu da arnoch, y gallu i ddangos menter, byddwch yn chwaraewr tîm rhagorol, a bydd gennych safonau hylendid uchel. Bydd gofyn i chi fod â'r gallu a'r hyder i weithio a ffynnu mewn amgylchedd prysur.
Bydd gofyn i chi:
- Gadw at weithdrefnau Hylendid ac Iechyd a Diogelwch a chydymffurfio â nhw.
- Ymgymryd ag unrhyw hyfforddiant sy'n angenrheidiol ar gyfer y swydd mewn unrhyw leoliad y mae'r Rheolwr Arlwyo yn teimlo ei fod yn addas.
- Sicrhau ar bob adeg fod yr holl offer cegin yn cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn gywir.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Catherine Davies ar 01633 647484 neu donna.harper@torfaen.gov.uk .
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.