MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: MS/UPS
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: MS/UPS

Athro / Athrawes (Ysgol Gymraeg Y Trallwng)
Swydd-ddisgrifiad

Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd

hon

Athro / Athrawes (19.5 awr yr wythnos)
SWYDD BARHAOL
Angen ar gyfer Medi 1af, 2025
Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Trallwng yn awyddus i benodi athro/athrawes ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer yr ysgol flaengar a chynhwysol hon. Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ysgol gynradd sy'n ysgogi a chefnogi pawb sy'n ynghlwm â'r ysgol mewn modd creadigol, torfol a byrlymus. Mae'r ysgol yn cynnig profiadau newydd, gwerthfawr ac unigryw sy'n sicrhau profiadau dysgu arloesol a difyr. Mae'r staff yn gofalu'n gydwybodol a theyrngar am eu disgyblion ac mae'r disgyblion yn
teimlo'n ddiogel ym mhob achos. Mae'r ysgol yn canolbwyntio ar ysgogi pob disgybl i fod yn fedrus a deallus, yn ogystal â datblygu'r staff yn broffesiynol. Mae ffocws angerddol ar yr iaith a'r ymdeimlad o berthyn wrth hybu a ffynnu'r Iaith Gymraeg yn y Trallwng. Yn dilyn adroddiad Estyn llwyddiannus ac adeilad newydd anghredadwy, mae dyfodol disglair iawn o'n blaenau.
Bydd ein athro / athrawes newydd yn uchelgeisiol ac yn meddu ar ddisgwyliadau uchel, yn ffynnu ar her, yn gweithio'n galed, yn arddangos sgiliau pobl rhagorol a bydd ef/hi yn benderfynol o ddarparu'r profiadau dysgu gorau i bob plentyn. Rydym yn meddu ar cyfle i benodi athro / athrawes hyblyg sydd â'r gallu i ddysgu ar hyd y continiwm gan addasu wrth i'r ysgol ffynnu ymhellach- gyda thwf sylweddol yn nifer y disgyblion, mae potensial i'r swydd hon ddatblygu i fod yn swydd llawn amser yn y dyfodol.
Mae'r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae'r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae'r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Dylid cyflwyno cais erbyn 19fed o Fehefin, 2025
Dyddiad Cau: 19fed o Fehefin, 2025
Rhestr Fer: 20fed o Fehefin, 2025
Cyfweliadau: 1af o Orffennaf, 2025
'Does neb yn berffaith, mae pawb yn wahanol. Mae'r ffordd yn un droellog i bawb'