MANYLION
  • Lleoliad: Lampeter,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 24,404 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu Lefel 2 - Ysgol Dyffryn Aeron

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 24,404 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i'n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, ar gytundeb blwyddyn, llawn amser yn Ysgol Dyffryn Aeron.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol.

Dyma gyfle euraidd i weithio mewn ysgol ardal newydd sydd â chyfleusterau modern o'r radd flaenaf, gyda Chanolfan ADY, Canolfan Iaith ac adnoddau chwaraeon gwych yn rhan o'r campws, mewn ardal odidog yng ngorllewin Cymru. Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Aeron yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu - Cefnogi a Chyflwyno Dysgu, Lefel 2.

Bydd y Cynorthwyydd Addysgu yn ran annatod o lunio dyfodol Ysgol Dyffryn Aeron, a llywio ei llwyddiant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • gweithio o dan arweiniad uwch aelodau o'r staff/staff addysgu ac o fewn system gytunedig o oruchwyliaeth
  • gweithredu rhaglenni gwaith cytunedig gydag unigolion/grwpiau, oddi mewn neu oddi allan i'r ystafell ddosbarth
  • cynorthwyo'r athro neu'r athrawes gyda'r cylch cynllunio cyflawn, a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyrraethau fel Trandep a Chyfrif Ceredigion a.y.y.b.
  • annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu'r athrawes
  • annog a chymhell disgyblion mewn modd bositif gan fedru cynnal disgyblaeth dda a chadw'r disgyblion wrth eu gwaith. Bydd angen i Oruchwylwyr Llanw ymateb i gwestiynau a rhoi cymorth cyffredinol i'r disgyblion wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau penodol

      Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

      Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth, Ms Nia Lloyd Thomas ar 01570470650 neu Thomasn60@hwbcymru.net

      Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

      Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

      Yr hyn a gynigwn

      Cydbwysedd bywyd a gwaith

      Cynllun cynilo ffordd o fyw

      Cynllun pensiwn cyflogwr hael

      Cynllun beicio i'r gwaith

      Dysgu a datblygu

      Lle byddwch yn gweithio

      Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
      Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
      • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
      • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
      • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
      • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
      • Derbyniadau Ysgol
      • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
      • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
      • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
      • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant