MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £64,933 - £71,523 (A11-A15)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £64,933 - £71,523 (A11-A15)
Dirprwy Bennaeth - Dolau PrimaryDisgrifiad Swydd
Ysgol Gynradd Dolau
DIRPRWY BENNAETH
Cyflog: £64,933 - £71,523 (A11-A15)
Dyddiad Dechrau: Ionawr 2025
Nifer ar y Gofrestr: 511
Ydych chi'n chwilio am her gyffrous, ac yn awyddus i gael cyfle i wneud gwahaniaeth fel Dirprwy Bennaeth?
Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu yn ceisio penodi Dirprwy Bennaeth ysbrydoledig a deinamig i weithio yn rhan o garfan hynod frwdfrydig a phrofiadol, gan symud yr ysgol ymlaen yng ngham nesaf ei datblygiad. Mae Ysgol Gynradd Dolau yn ysgol dda iawn sy'n ymdrechu am ragoriaeth yn barhaus. Dyma gyfle delfrydol i rywun sy'n edrych i ddatblygu ei yrfa/gyrfa a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol fel Dirprwy Bennaeth.
Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu am benodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig sydd ag angerdd am wella ysgolion ac arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth. Rydyn ni'n chwilio am:
- Unigolyn sy'n meddwl yn strategol ac sydd â phrofiad o roi sgiliau arwain, rheoli a rhyngbersonol ar waith yn llwyddiannus
- Mae ganddo angerdd cryf am yr iaith a'r diwylliant Cymraeg;
- Ymrwymiad i weithio mewn carfan a phartneriaethau
- Ymroddiad i ragoriaeth mewn addysg a disgwyliadau uchel
- Arweinydd sy'n ysbrydoli, cymell a grymuso pobl eraill
- Ymarferydd dosbarth rhagorol sydd yr un mor angerddol am ddatblygiad emosiynol ac academaidd pob plentyn yn eu gofal.
- Unigolyn arloesol a gwybodus gyda’r hyder i arwain ar weledigaeth yr ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd
Mae modd i ni gynnig:
- Plant brwdfrydig, chwilfrydig a chyfeillgar
- carfan o staff gweithgar, ymroddedig a medrus iawn
- rhieni a chorff llywodraethu cefnogol
- ymrwymiad i'ch datblygiad proffesiynol
Mae modd cael gafael ar ffurflenni cais a manylion pellach yn Chwilio am Swyddi (webitrent.com)
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch y broses ymgeisio, ffoniwch Caron Hughes ar y rhif ffôn canlynol: (01443) 444551 neu anfonwch e-bost at caron.hughes@rctcbc.gov.uk
Dyddiad cau'r swydd yma yw hanner nos 19 Mehefin 2025
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.