MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Schools,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Soulbury 8-11 ynghyd â 3 phwynt APS
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Soulbury 8-11 ynghyd â 3 phwynt APS
Lleoliad gwaith: Coed Pella ac ar draws ysgolion ConwyMae'r Gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghonwy yn mynd trwy nifer o newidiadau a datblygiadau ac rydym yn awyddus i gryfhau'r tîm gydag Athrawon ADY/Cynhwysiant brwdfrydig, angerddol a blaengar i gefnogi datblygiadau a gweledigaeth yr Awdurdod.
Rydym wedi ymrwymo i athroniaeth ac arfer gynhwysol ar draws amrywiaeth o leoliadau prif ffrwd ac arbenigol. Rydym yn gweithio'n agos gyda nifer o asiantaethau a gwasanaethau ac mae gan y tîm safle strategol wrth weithio gyda gwasanaethau a darpariaeth ADY a'u datblygu yng Nghonwy.
Byddwch chi'n ymuno â thîm cefnogol wedi'i hen sefydlu, sydd wedi'u hymrwymo i addysg gynhwysol a chefnogi disgyblion ag ADY.
Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol ein Hathrawon ADY/Cynhwysiant ac rydym yn awyddus i'r Gwasanaeth barhau i arwain ar arfer gynhwysol a monitro a gwerthuso disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd y tîm yn rhan o ddull amlddisgyblaethol o gefnogi ysgolion i weithredu'r newidiadau hanfodol yn y Ddeddf ADY a'r Tribiwnlys Addysg newydd. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda dyletswyddau'm ar draws ysgolion Uwchradd, lleoliadau ysgolion annibynnol ac Ôl-16, ac yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd a gweledigaeth yr awdurdod ar gyfer cynhwysiant. Byddant hefyd yn cynorthwyo gyda dyletswyddau mewn perthynas â dysgwyr sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol.
Os ydych chi'n athro â phrofiad o gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY, (yn arbennig plant o oedran ysgol uwchradd) a diddordeb mewn datblygu Gwasanaethau a chymorth yn y maes hwn, cysylltwch ag Amanda Sissons (01492 575531) i gael trafodaeth anffurfiol.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Catherine Webster, Rheolwr Gwasanaeth ADY ( catherine.webster@conwy.gov.uk / 01492 575082)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.