MANYLION
  • Lleoliad: Tremains Primary School,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £18,278 - £18,880 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Arbennig - Ysgol Gynradd Tremains

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £18,278 - £18,880 y flwyddyn

Swyddog Cymorth Arbennig - Ysgol Gynradd Tremains
Disgrifiad swydd
28.5 awr yr wythnos

Amser Tymor

Mae Ysgol Gynradd Tremains yn ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad wedi'i lleoli ym Mracla. Mae gan yr ysgol amgylchedd dysgu unigryw ac amrywiol, gyda thri dosbarth lleoliad arbenigol: dau Ddosbarth Adnoddau Dysgu Arsylwi ac Asesu'r Cyfnod Sylfaen, ac ASDLRC Cyfnod Allweddol 2. Mae'r lleoliad dynamig hwn yn galluogi'r ysgol i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol ei disgyblion, gan ddarparu cymorth wedi'i deilwra a chyfleoedd ar gyfer twf.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Arbennig ymroddedig a phrofiadol i ymuno â'n tîm dynamig yn Ysgol Gynradd Tremains. Yn y rôl hon, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio disgyblion ag anghenion Dysgu Ychwanegol a darparu cymorth iddynt, gan sicrhau eu diogelwch a'u mynediad at weithgareddau dysgu yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu. A chithau'n ymarferydd rhagorol yn yr ystafell ddosbarth gyda phrofiad mewn dosbarthiadau lleoliad arbenigol, bydd gennych wybodaeth fanwl am gefnogi disgyblion ag amrywiaeth o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 12 Mehefin 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 13 Mehefin 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 20 Mehefin 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person