MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.85 i £13.05 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwyliwr Canol Dydd (Ysgol Glantwymyn)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 3 Pwynt 3 i Bwynt 4 £24,796 i £25,185 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.85 i £13.05 yr awr

Goruchwyliwr Canol Dydd (Ysgol Glantwymyn)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rôl wedi cael ei ymestyn, dyma'r dyddiadau newydd -
Dyddiad cau: 02/11/2025
Dyddiad creu rhestr fer: 03/11/2025
Cyfweliadau: 07/11/2025

Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu'r swydd

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
1. Goruchwylio disgyblion yn ystod amser cinio a sicrhau eu diogelwch a'u lles.
2. Yn gweithio o dan gyfarwyddyd cyffredinol yr Uwch Oruchwyliwr Canol Dydd neu rywun dynodedig arall sy'n gyfrifol.
3. Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn effeithio rywfaint ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch). Gallai hyn gynnwys bodloni anghenion disgyblion wrth fynd i'r toiled e.e. newid
cewynnau/padiau a symud/cario a chodi cysylltiedig. Gallai hyfforddiant priodol a ddilynir gynnwys rhoi meddyginiaeth, defnyddio EpiPen etc.
4. Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu bobl dan hyfforddiant.
5. Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
6. Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin a defnyddio offer yn ofalus.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS