MANYLION
  • Lleoliad: Swansea,
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 08 Gorffennaf, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryniago: Part time Teacher (Temporary)

Cyngor Abertawe
YGG Bryniago
Pontarddulais
Abertawe
SA4 8JA
Ffôn: 01792 882012

Rydym yn chwilio am gydweithiwr ysbrydoledig, profiadol ac ymroddedig i ddysgu disgyblion ifanc yng Nghyfnod y Dysgu Sylfaen (3-7 oed), gan greu profiadau dysgu cyfoethog, ystyrlon ac ymarferol sy'n adlewyrchu meddylfryd y Cwricwlwm i Gymru.

Disgwylir i'r athro/athrawes:
  • gynnal yr ethos cadarnhaol yn yr ysgol, sydd â'i wreiddiau yn yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig.
  • feddu ar sgiliau dysgu o safon uchel a fydd yn heriol ac yn ysgogol yng Nghyfnod y Dysgu Sylfaen (3-7 oed)
  • i fod yn barod i arwain a datblygu MDaPh yn effeithiol a llwyddiannus ar draws yr holl oed dysgu.
  • fedru cyd-weithio fel aelod o dîm.
  • Dangos dealltwriaeth gadarn o ddatblygiad plant a'r dulliau dysgu sy'n berthnasol i leoliadau meithrin nas cynhelir a'r blynyddoedd cynnar.
  • Mae ymroddiad i addysg Gymraeg ynghyd â Chymraeg llafar ac ysgrifenedig graenus yn hanfodol.

YR HYN RYDYM YN EI GYNNIG:
  • Cymuned weithgar a hapus, sy'n cynnig amgylchedd gofalgar, diogel a chroesawgar
  • Diwylliant cadarnhaol sy'n meithrin egwyddorion arwyddair yr ysgol yn dda, sef 'Dim ond ein gorau glas sy'n ddigon da
  • Plant brwdfrydig, staff gweithgar a llywodraethwyr cefnogol
  • Cwricwlwm perthnasol sy'n cwmpasu'r meysydd dysgu a phrofiad sy'n herio ac ysbrydoli dysgwyr i gyrraedd safonau da
  • Tîm o staff sydd yn rhoi pwyslais cryf ar les corfforol ac emosiynol disgyblion a sy'n dathlu gwahaniaethau o fewn cymdeithas
  • Cymorth pwrpasol o ansawdd uchel i ddisgyblion ag ADY
  • Ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus ar bob lefel

Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer ddangos eu haddysgu rhagorol trwy arsylwad gwers gan y pennaeth/ dirprwy-bennaeth.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd Mercher, Mehefin 18fed, 2025
Rhestr Fer: w/d 23.06.2025
Sylwadau gwersi: w/d 23.06.2025
Cyfweliadau: Dydd Iau 27.06.2025

Application form - primary, secondary, special teachers ( Word doc, 117 KB )

Swydd ddisgrifiad athro athrawes YGG Bryniago ( PDF, 264 KB )

Cyflwynwch eich llythyr cais a ffurflen gais wedi'i llenwi i swyddfa'r Ysgol, yn ygg.bryniago@swansea-edunet.gov.uk at sylw'r pennaeth.

Bydd yr holl ymgeiswyr yn derbyn ymateb, i gadarnhau ein bod wedi derbyn y cais. Mae disgrifiad swydd manwl ar gael gyda'r ffurflen gais.

Mae ffurflenni cais a manylion pellach ar gael ar wefan Swyddi Addysgu Abertawe https://www.swansea.gov.uk/schooljobs

Mae'r swydd yn amodol ar Ddatgeliad Uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Within Swansea Council there is a "Safeguarding is Everybody's Business" principle, and this applies to all Swansea Council employees, elected members, volunteers and contractors. Further details can be found at https://www.swansea.gov.uk/corporatesafeguarding