MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Apprentice National Minimum Wage (Age 16-20) | National Living Wage (Age 21+)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Apprentice National Minimum Wage (Age 16-20) | National Living Wage (Age 21+)
Hoffech chi weithio i Sefydliad mawr, blaengar a fydd yn eich herio ac yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa, a hefyd yn rhoi cyfle i chi ennill cyflog wrth i chi ddysgu? Os felly, dewch i ymuno â Rhaglen Datblygu Gyrfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Fel Prentis, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol ac yn dysgu sgiliau sy'n benodol i'r swydd, gan ennill cyflog a gweithio tuag at Ddyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Chwarae, sy'n gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol, ar yr un pryd.Gwerthoedd y Cyngor yw Teg, Cefnogol, Effeithiol ac Arloesol ac mae'r rhain yn bwysig iawn i ni. Os ydych chi eisiau llwyddo, bydd gofyn i chi ymddwyn mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r Gwerthoedd hyn
Fel Prentis yn y Gwasanaeth Chwarae, byddwch yn cefnogi datblygiad plant trwy chwarae ac yn darparu cyfleoedd chwarae diogel a chynhwysol, gan ddysgu'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer gyrfa ym maes gofal plant. Bydd hyn yn cynnwys gweithio mewn lleoliadau chwarae cymunedol fel Sesiynau Chwarae i'r Teulu a Chlybiau ar ôl Ysgol yn ogystal â phrosiectau chwarae sy'n gysylltiedig ag ysgolion. Bydd hefyd yn golygu gweithio mewn darpariaethau chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae'r swydd mewn tîm cyfeillgar lle byddwch yn cael cefnogaeth ardderchog a hyfforddiant yn y swydd. Byddwch hefyd yn magu sgiliau gwaith a bywyd gwerthfawr i'ch helpu i lansio gyrfa yn y maes o'ch dewis.
Rydyn ni'n gweithio yn yr Adeilad Eco, Ystâd Ddiwydiannol Springvale, Cwmbrân. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Andrea Sysum, Swyddog Polisi Chwarae ar 01495 742951 neu anfonwch neges trwy e-bost i andrea.sysum@torfaen.go.uk .
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.
Cymorth Ychwanegol â'ch Cyflogaeth
Gall Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen roi cefnogaeth ychwanegol am ddim i'ch cynorthwyo i chwilio am waith. Gall hyn gynnwys cyngor a chefnogaeth gyda'r broses recriwtio, er enghraifft sut i lenwi ffurflenni cais a sgiliau technegau cyfweliad hefyd.
Os hoffech chi fanteisio ar y cyngor a'r gefnogaeth, am ddim, cysylltwch â'n Tîm Sgiliau a Chyflogadwyedd yn: employability@torfaen.gov.uk neu drwy ffonio 01633 647743.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.