MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Heb ei ddarparu
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Hourly rate: £13.92 | Grade 2
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 21 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Goruchwylydd Ganol Dydd x2 - Ysgol Gynradd George Street

Torfaen Local Authority

Cyflog: Hourly rate: £13.92 | Grade 2

Cyfnod penodol tan 31 Awst 2027

9.1 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn (yn ystod y tymor yn unig)

MaeYsgol Gynradd George Street yn ysgol groesawgar a llwyddiannus gydag ymrwymiad cryf i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu.

Rydym yn dymuno penodi dau Oruchwylydd Ganol Dydd rhagorol a brwdfrydig i ymuno â'n tîm staff cynhwysol ac ymroddgar. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol a chydweithredol lle mae disgwyliadau uchel a pherthnasoedd cadarnhaol yn sail i bopeth a wnawn.

Byddwch yn gweithio yn rhan o dîm ymroddgar sydd â hanes da o greu'r amodau sy'n galluogi disgyblion i ffynnu. Mae'r rôl yn gofyn am rywun sy'n gallu cydweithio'n effeithiol â chydweithwyr, ac sy'n barod i wneud cyfraniad cadarnhaol ac ystyrlon i fywyd ehangach yr ysgol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu meithrin perthynas gadarnhaol â disgyblion, hyrwyddo ymddygiad rhagorol, a chyfrannu at ddiwylliant gofalgar a chynhwysol lle mae pob plentyn yn cael ei annog i lwyddo.

Tynnu'r Rhestr Fer: Dydd Iau 22 Hydref 2026
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 3 Tachwedd 2026


Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.