MANYLION.
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Heb ei ddarparu
- Pwnc: Heb ei ddarparu
- Oriau: Llawn amser
- Cytundeb: Heb ei ddarparu
- Math o gyflog: Heb ei Gyflenwi
- Cyflog: MPS\/UPS
- Iaith: Unrhyw
- Dyddiad Cau: 08 Hydref, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: MPS\/UPS
Athro Gwyddoniaeth Llawn Amser Dros DroDiolch am eich diddordeb yn swydd Athro Gwyddoniaeth Dros Dro yn Ysgol Abersychan. Mae hon yn swydd bwysig ar gyfer ein hysgol, wrth i ni barhau i wella ansawdd y ddarpariaeth, a chodi safonau yn y maes Gwyddoniaeth ymhellach. Mae'r Adran Wyddoniaeth yn datblygu ei darpariaeth i sicrhau canlyniadau cryf i fyfyrwyr yn y lle cyntaf, cyn symud ymlaen tuag at ragoriaeth. Mae'r Arweinydd Cwricwlwm newydd wedi ymrwymo i yrru'r adran ymlaen ac adeiladu ar ei chryfderau.
Mae Ysgol Abersychan yn ysgol gyfun i ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oedd sy'n diwallu anghenion myfyrwyr o bob gallu. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni y gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 710 o fyfyrwyr, 40 o athrawon a 43 aelod o staff cynorthwyol. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o anfantais economaidd-gymdeithasol ac mae gan 31% o fyfyrwyr hawl i brydau ysgol am ddim. Mae 51% yn byw o fewn yr 20% uchaf o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gref, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel ac ystod eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae myfyrwyr yn hapus ac yn gweithio'n galed ac mae ganddynt farn gadarnhaol am yr ysgol. Maen nhw'n ased go iawn i'n cymuned ac yn hynod gyfeillgar. Rydym yn ffodus bod gennym rieni a llywodraethwyr gwych sy'n gefnogol iawn ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda ni i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr addysg orau bosibl. Mae'r ysgol wedi cael canmoliaeth eang am wneud gwelliannau i ymddygiad a llesiant, ac rydym yn parhau i ymdrechu am y safonau uchaf trwy ddarpariaeth ragorol.
Mae'r staff yn Ysgol Abersychan School yn dîm llwyddiannus, gweithgar a deinamig sy'n rhannu cydweledigaeth i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr addysgu a'r dysgu o'r ansawdd uchaf er mwyn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Mae gan yr ysgol adnoddau da ac adnoddau addysgu digidol, gan gynnwys byrddau gwyn rhyngweithiol, camerâu dogfennau a Chromebooks. Yn sail i'r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau'r myfyrwyr, mae arweinwyr cryf, model cwricwlwm cydlynol a gweledigaeth strategol a chlir.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn neilltuol sydd â'r egni, yr ysgogiad, y gwydnwch a'r ymrwymiad i ymuno â ni ar yr adeg dyngedfennol hon ar ein taith i wella'r ysgol. Os ydych chi'n gyffrous wrth feddwl am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig wrth wireddu uchelgeisiau yr ysgol, os oes gennych gred ddi-baid y gall pob myfyriwr gyflawni, waeth beth yw eu cefndir a'u gallu, byddem wrth ein bodd i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ruth.bassett@abersychanschool.co.uk os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon neu i drefnu ymweld â'r ysgol. Rhaid llenwi'r ffurflen gais trwy blatfform yr Awdurdod Lleol sydd wedi'i gysylltu â'r hysbyseb swydd ar eteach.
Dyddiad cau: 11:59pm, Dydd Iau 8 Hydref 2026
Cyfweliad: Dydd Mawrth 13 Hydref 2026
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.
Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.