MANYLION
  • Lleoliad: HAVERFORDWEST, Pembrokeshire, SA61 1SZ
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,071 - £23,397
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Gweinyddwr (o fewn y Gyfadran Addysg Alwedigaethol Arbenigol)

Gweinyddwr (o fewn y Gyfadran Addysg Alwedigaethol Arbenigol)

Coleg Sir Benfro
Gweinyddwr
(llawn amser– Parhaol)
(o fewn y Gyfadran Addysg Alwedigaethol Arbenigol)

Manylion Cyflog: £19,071 - £21,560 BAR £21,821 - £23,397

Math o Gontract: Cyflogedig - Parhaol

Oriau gwaith: Llawn-amser - 37 awr yr wythnos

Cymwysterau: Meddu ar gymhwyster lefel 2 gofynnol perthnasol. Fodd bynnag, mae'n ddymunol iawn meddu ar gymhwyster lefel 3/4 perthnasol. Os heb gymhwyster felly, mae'n hanfodol cyflawni hyn o fewn amserlen y cytunwyd arni.

Byddwch yn weinyddwr profiadol sy'n hyddysg iawn yn y defnydd o gymwysiadau Microsoft Office, gyda phrofiad diweddar o ddefnyddio Excel. Bydd angen i chi fod yn hyddysg mewn cymryd cofnodion, rhoi sylw da i fanylion, a meddu ar sgiliau gramadeg a sillafu rhagorol.

Byddwch yn dangos menter, bydd gennych ymagwedd drefnus a strwythuredig at waith a rhaid bod gennych y gallu i weithio tuag at dargedau/terfynau amser a'u cyflawni. Byddwch yn gyfathrebwr rhagorol yn darparu lefel uchel o wasanaeth cwsmer i staff a myfyrwyr.
Byddwch yn cynorthwyo gyda chydlynu ymweliadau addysgol yn ogystal â phrynu a phrosesu anfonebau ar gyfer y gyfadran a chynnal cofnodion ariannol cywir.

Mae Coleg Sir Benfro yn croesawu’r canlynol yn arbennig:  ymgeiswyr â sgiliau cyfathrebu llafar Cymraeg da / ymgeiswyr ag anableddau / Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog / ymgeiswyr rhannu swydd.

Dyddiad Cau: Hanner nos, Nos Sul 29ain Mai 2022