MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Corneli Primary,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro FTE 0.4 (Dros Dro) - Ysgol Gynradd Corneli
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro FTE 0.4 (Dros Dro) - Ysgol Gynradd CorneliDisgrifiad swydd
Dros dro hyd at 31 Awst 2026
Mae llywodraethwyr Ysgol Gynradd Corneli am benodi athro/athrawes ysgol gynradd uchel ei gymhelliant/uchel ei chymhelliant, arloesol a chreadigol i weithio'n rhan-amser (rhannu swydd) yng Ngham Cynnydd 2 neu 3. Yn y rôl hon, byddwch yn ysbrydoli meddyliau ifanc, yn meithrin cariad at ddysgu, ac yn creu amgylchedd ystafell ddosbarth difyr a llawn dychymyg. Os ydych yn ymrwymedig i feithrin potensial pob plentyn ac yn awyddus i ddod â syniadau ffres i'n cymuned ysgol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Mae hwn yn gyfle gwych i addysgwr ymroddedig ac angerddol gael effaith gadarnhaol ar gymuned ein hysgol.
Bydd angen i ymgeiswyr fod yn angerddol am arfer cynradd o ansawdd uchel, bod yn ymarferwyr gwych yn yr ystafell ddosbarth a gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm. Rydym yn chwilio am rywun â diddordeb mewn cyfrannu at fywyd ehangach yr ysgol ac sy'n gallu cael effaith y tu hwnt i'w ystafell ddosbarth. Mae angen i ymgeiswyr fod â disgwyliadau uchel ar gyfer yr holl ddisgyblion yn academaidd ac o ran eu hymddygiad.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn:
Angerddol am addysgu a dysgu a meddu ar ddisgwyliadau uchel;
Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gref o'r cwricwlwm cynradd;
Yn meddu ar y gallu i weithio ar y cyd â'u partner rhannu swydd ac fel rhan o dîm;
Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych;
Dangos ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus;
Dangos creadigrwydd ac arloesedd wrth gynllunio a chyflwyno gwersi;
Cymryd rhan weithredol yng nghymuned yr ysgol a chefnogi ei hethos.
Rydym yn cynnig ysgol hapus, greadigol a chynhwysol lle rydym yn gwerthfawrogi ein holl ddysgwyr a gweithio i sicrhau bod pob un yn cyrraedd ei botensial llawn.
Os ydych yn teimlo bod hon yn ysgol â'r heriau proffesiynol cywir i chi a'ch bod yn credu y gallwch ateb yr her honno rydym yn croesawu eich cais.
Mae'r gallu i gynnal sgwrs sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Mehefin 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 20 Mehefin 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 3 Gorffennaf 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person