MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: L18 - L24*
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: L18 - L24*
I ddechrau 1af Ionawr 2026 (neu'n gynt os yn bosibl)Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Ysgol Gynradd Pontnewydd yn ysgol gynradd boblogaidd yng nghanol Cwmbrân.
Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Pontnewydd yn dymuno penodi Pennaeth rhagorol sydd â'r weledigaeth, y dalent a'r ymrwymiad i ddatblygu ysgol lwyddiannus ymhellach.
Rydym yn chwilio am Bennaeth sydd ag;
- Ysfa i sicrhau bod pob dysgwr yn cyflawni eu potensial
- Sgiliau arwain a rheoli rhagorol
- Y gallu i hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol ar gyfer dyfodol Ysgol Gynradd Pontnewydd
- Cred ym mhotensial pob plentyn i gyflawni
- Ymrwymiad i weithio ar y cyd â'r holl randdeiliaid a'r gymuned leol
Yn gyfnewid, mae'r ysgol yn gallu cynnig croeso cynnes i ymuno â thîm cyfeillgar, gweithgar o weithwyr proffesiynol. Gall yr ysgol gynnig amgylchedd dysgu sy'n gyfoethog o ran technoleg ac ymrwymiad cryf i'ch Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Os oes angen rhagor o fanylion arnoch ynglyn â'r swydd hon neu i drefnu ymweliad, cysylltwch ag Is-gadeirydd y Llywodraethwyr ian.wilkinson@dragonsrfc.wales .
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr (1974). Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed ac mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i fynd trwy broses sgrinio gynhwysfawr a fydd yn cynnwys Gwiriad Manylach trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd gwiriadau hefyd gyda chyflogwyr blaenorol a'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Tynnu'r rhestr fer: 13eg Mehefin 2025 Cyfweliadau: 30ain Mehefin ac 1af Gorffennaf 2025