MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rural,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £20,179 - £21,171 y flwyddyn (G04)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £20,179 - £21,171 y flwyddyn (G04)
Lleoliad gwaith: Canolfan Iaith Conwy - DolgarrogMae Gwasanaeth Addysg Conwy yn chwilio am Gymorthydd Dysgu i ddarparu cymorth i ddysgwyr yng Nghanolfan Iaith Conwy. Mae hon yn rôl hanfodol wrth gefnogi a sicrhau'r ansawdd gorau o addysg i'r holl blant a phobl ifanc sy'n ymgymryd â'r rhaglen drochi Gymraeg yng Nghonwy. Mae'r rhaglen hon ar gyfer pobl sy'n hwyr-ddyfodiaid i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg Conwy.
Mae'r Ganolfan Iaith yn darparu rhaglenni cymorth iaith dwys i alluogi plant i barhau â'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hysgol leol. Mae'r ddarpariaeth yng Nghanolfan Iaith yn rhan annatod o CSGA Conwy a chynnydd addysgol llwyddiannus dysgwyr yng Nghonwy.
Rydym yn chwilio am ymarferydd brwdfrydig sy'n gallu cefnogi'r gwaith o addysgu'r Gymraeg yn yr amgylchedd arbenigol hwn.
Mae'n ofynnol i chi fod yn rhugl ac yn gallu cefnogi'r gwaith o addysgu sgiliau Cymraeg ar bob lefel a maes sgiliau (yn enwedig darllen, ysgrifennu a siarad) a bod yn hyfedr yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gany Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda'r Cyngor y Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: John Paul Jones, Swyddog Gwella Addysg, 01492 574604 john.paul.jones@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.