MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 23,656 *
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Hebryngwr Croesfannau Ysgol - Ysgol Gynradd Padarn Sant

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 23,656 *

Ynglŷn â'r rôl
Sylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.

Rydym am recriwtio Hebryngwr Croesfannau Ysgol i ymuno â'r tîm Diogelwch ar y Ffyrdd.

Pwrpas y swydd yw sicrhau diogelwch plant wrth iddyn nhw groesi'r ffordd mewn man dynodedig ar amserau penodedig, heb amharu ar les defnyddwyr eraill y ffordd.

O ddydd i ddydd byddwch yn:
  • Cyrraedd lleoliad eich croesfan ar amser, yn gwisgo'r wisg gywir a chyda'r arwydd stop;
  • Atal cerddwyr rhag croesi'r ffordd nes ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny, unwaith y byddwch wedi ;sicrhau bod yr holl draffig wedi stopio symud i'r ddau gyfeiriad;
  • Gweithredu polisi'r Cyngor mewn perthynas â'r gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol gan gynnwys y gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch;
  • Cadw rheolaeth ar y plant sy'n aros am gyfarwyddyd gan yr Hebryngwr Croesfannau Ysgol i groesi'r briffordd.

Rydym am recriwtio unigolyn sy'n ddibynadwy a hyderus, un sy'n dda am gadw amser a chyfathrebu, all addasu'n gyflym ac mewn modd priodol i sefyllfaoedd sy'n newid, sy'n hyderus yn gweithio ar y briffordd.

Rhywun sydd â'r gallu i oruchwylio plant ac sy'n ofalgar ohonynt, y gallu i weithio heb oruchwyliaeth, a rhywun all gyfathrebu mewn ffordd glir a serchog bob amser.

Yn ogystal â'r uchod, rydym yn gofyn am unigolyn sydd â lefel o ruglder yn y Gymraeg.

Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion gweithwyr ichi gan gynnwys cynllun cyfraniadau pensiwn hael. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr i'w gweld yma. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cefnogaeth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth yn gyflym ac yn hyderus o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi'ch datblygiad er mwyn ichi allu symud ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Os hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â: Kayleigh Tonkins - Swyddog Diogelwch ar y Ffyrdd - 01545 572053.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Priffyrdd ac Amgylcheddol
Rydym yn darparu gwasanaethau effeithlon, cynaliadwy a dwyieithog i bobl Ceredigion, gan hybu lles yn ein cymunedau, ymfalchïo mewn amgylchedd iach sy'n cael ei gadw'n dda, a hyder yn ein heconomi leol.
  • Gwasanaethau Trafnidiaeth: Trafnidiaeth gorfforaethol; Rheoli'r fflyd; Gwasanaethau parcio; Harbyrau.
  • Cynnal a Chadw Priffyrdd: Ymateb brys; Archwilio priffyrdd; Gwasanaeth y gaeaf.
  • Datblygu Priffyrdd: Cyswllt Cynllunio; Diogelwch ar y ffyrdd; Trafnidiaeth rhanbarthol; Goleuadau stryd; Gwaith stryd Rheoli traffig; CWIC/NMWTRA; Goruchwylio'r dyluniad; Rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd; Gwella priffyrdd.
  • Gwasanaethau Amgylchedd Leol: Casgliadau gwastraff, Safleoedd gwastraff cartref; Cynnal a chadw tiroedd; Glanhau strydoedd.
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy