MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 51,920 - 57,304 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: 51,920 - 57,304 *
Ynglŷn â'r rôlSylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Rhydypennau yn gwahodd ceisiadau oddi wrth uwch arweinwyr profiadol ar gyfer swydd Dirprwy Bennaeth yr ysgol. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad cydnabyddedig o arwain timau neu adrannau'n effeithiol, o wella safonau disgyblion, ac sydd â thystiolaeth gadarn o ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ar lefel arweinyddiaeth.
Byddwch yn ymuno gydag Uwch Dîm Rheoli profiadol ac ymroddgar, sy'n cynnwys y Pennaeth, Dirprwy Bennaeth a Phennaeth Cynorthwyol. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â'r rhinweddau angenrheidiol er mwyn gallu cydweithio'n hwylus ac mewn modd proffesiynol gyda holl randdeiliaid yr ysgol; ac sy'n hynod effeithiol ac effeithlon ym mhob agwedd o ofynion y swydd ac o waith yr ysgol.
Yn ogystal â chyfrifoldebau eraill, bydd gan y Dirprwy Bennaeth gyfrifoldeb penodol fel arweinydd adran; ac fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gofnod cynhwysfawr o ddysgu ac addysgu o'r radd flaenaf; ac yn ddelfrydol, byddant wedi rhannu arferion da ar lefel ysgol a sirol neu'n ehangach.
Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr â'r gallu i gyfathrebu trwy'r Gymraeg (sy'n cyfateb â Lefel 5 yn unol â'r fframwaith ALTE yn Gwrando / Siarad, Darllen ac Ysgrifennu) ar gyfer y swydd hon. I'r perwyl hwn, byddai'r panel dethol yn dymuno derbyn ceisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Byddwn yn cynnal y cyfweliadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Croesawn gyswllt blaenorol gan ymgeiswyr, a gallwch drefnu sgwrs neu ymweliad anffurfiol trwy gysylltu â'r Pennaeth, Mr Peter Leggett ar 01970 828608 neu dros e-bost ar p.leggett1@rhydypennau.ceredigion.sch.uk
Mae'r ysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hybu lles plant a phobl ifanc. Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu'r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), sef y CRB gynt.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy