MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £35,712 - £38,079 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cydlynydd Cyfathrebu Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol

Coleg Sir Gar

Cyflog: £35,712 - £38,079 / blwyddyn

Cydlynydd Cyfathrebu Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol
Application Deadline: 11 June 2025

Department: Marchnata

Employment Type: Dros dro

Location: Campws Graig

Compensation: £35,712 - £38,079 / blwyddyn

DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion gyfle cyffrous i unigolyn creadigol ac ymroddedig ymuno â'r tîm marchnata, sydd wedi'i leoli ar Gampws y Graig yn Llanelli.

Fel y Cydlynydd Cyfathrebu Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol, byddwch yn cefnogi cynlluniau strategol y Coleg a'i nodau i gyrraedd a rhagori ar dargedau recriwtio ar draws yr holl farchnadoedd. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo enw da Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a chodi'r proffil trwy sianeli cyfathrebu dwyieithog lluosog. Gan gymryd perchnogaeth lawn o'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn monitro ac yn dadansoddi data ar yr holl sianeli cyfryngau cymdeithasol, mae hyn yn cynnwys ymgyrchoedd hysbysebu organig a thâl. Byddwch hefyd yn gweithio gyda phob cyfadran i ddatblygu a chydlynu sianeli, monitro ansawdd a sicrhau gwasanaeth o ansawdd er mwyn sicrhau'r allbwn mwyaf posibl. Byddwch chi, fel llysgennad brand, yn sicrhau negeseuon cyson ym mhob cyfathrebiad o fewn y Coleg. Mae hwn yn gyfle gwych i gynnal a datblygu gwybodaeth gyfredol ac arfer gorau er mwyn sicrhau ymgyrchoedd marchnata digidol creadigol ac arloesol.

Cyfrifoldebau Allweddol
  • chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo enw da Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a chodi eu proffil drwy sianeli cyfathrebu dwyieithog lluosog;
  • trefnu'r gwaith bob dydd o redeg cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y coleg;
  • monitro a dadansoddi data ar holl sianeli cyfryngau cymdeithasol y coleg (gan gynnwys ymgyrchoedd hysbysebu organig a hysbysebu am dâl), gan ddefnyddio dadansoddeg i werthuso effaith ac adrodd wrth y Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr, Dilyniant a Phartneriaethau bob pythefnos;
  • monitro gweithgarwch y cyfryngau'n ddyddiol ac ymateb yn unol â hynny i leihau risg;
  • datblygu a chydlynu sianeli cyfryngau cymdeithasol i bob cyfadran, monitro ansawdd, a sicrhau rhannu'r swm mwyaf posibl o wybodaeth yn unol â blaenoriaethau ar draws y coleg.
  • cydlynu cynlluniau cyfathrebu digidol sy'n alinio â'r cynllun recriwtio a marchnata trosfwaol, gan fynd ati'n rhagweithiol i geisio adborth er mwyn sicrhau bod y sianeli cyfathrebu a ddewisir yn effeithiol o ran cyrraedd y gynulleidfa darged;
  • ysgrifennu copi sy'n gymhellol ac yn ennyn diddordeb yn y Gymraeg a Saesneg, y gellir ei ddefnyddio at nifer o ddibenion ar draws yr holl sianeli cyfryngau cymdeithasol a'i ddefnyddio yn y dull mwyaf effeithiol ar y we ar gyfer cynulleidfa eang megis pobl ifanc, rhieni/gwarcheidwaid a nifer o sectorau diwydiant â gwybodaeth am Optimeiddiaeth Peiriant Chwilio (SEO) ar gyfer cynnwys y we;
  • sicrhau bod yr holl gynnyrch ysgrifenedig yn gywir ac yn unôl â'r arddull tŷ y cytunwyd arno, a safonau'r Gymraeg.
  • uwchsgilio'r cyfadrannau i ddarparu amrywiaeth o gynnwys gweledol creadigol ar gyfer yr holl lwyfannau digidol gan ennyn diddordeb cynulleidfaoedd targed mewn modd amserol i gael yr effaith fwyaf;
  • mynd ati'n rhagweithiol i ymgysylltu a datblygu perthnasoedd, yn fewnol ac yn allanol er mwyn mwyafu cyfleoedd a chael adborth;
  • gweithredu fel llysgennad brand gan sicrhau negeseua cyson drwy gydol holl ddulliau cyfathrebu'r coleg;
  • cadw gwybodaeth yn gyfoes a rhannu arfer gorau marchnata digidol newydd ac arloesol i gyrraedd yr holl fudd-ddeiliaid;
  • gwneud yn siŵr bod yr holl weithgarwch marchnata digidol yn cydymffurfio â deddfwriaeth, megis GDPR, Safonau'r Gymraeg a PECR;
  • gweithio fel rhan o dîm, gan gefnogi ehangder gwaith y timau marchnata a blaen y tŷ;
  • helpu i drefnu ystod o weithgareddau hyrwyddo, gan gynnwys cynadleddau gyrfaoedd, digwyddiadau cyfadrannau mewnol, arddangosfeydd, Cynadleddau Addysg Uwch a nosweithiau agored;
  • mynychu a chefnogi diwrnodau/nosweithiau agored y coleg a digwyddiadau hyrwyddo eraill, gan sicrhau sylw hyrwyddol ar yr holl lwyfannau digidol perthnasol;

Manyleb yr unigolynHanfodol:
Cymwysterau
  • Gradd neu brofiad diwydiannol cyfwerth sy'n berthnasol i'r swydd
  • TGAU Graddau A*-C mewn Mathemateg a Saesneg neu gyfwerth
Profiad
  • Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG yn gymwys, gan gynnwys Microsoft Word ac Excel
  • Profiad perthnasol o Weinyddu
  • Profiad mewn defnyddio llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol
  • Dadansoddi ac Adrodd am Ddata
  • Ysgrifennu cynnwys cwsmer-ganolog ar gyfer llwyfannau niferus
  • Adeiladu perthnasoedd gwaith cydweithredol
Nodweddion Personol:
  • Ymagwedd broffesiynol a hyderus
  • Cyfathrebwr ardderchog â diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau trefniadol a rheoli amser ardderchog
  • Sylw i fanylion, rhagweithiol a gallu defnyddio menter
  • Gallu delio â materion sy'n sensitif yn wleidyddol
  • Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
  • Sgiliau ysgrifenedig a chyfathrebu llafar ardderchog
  • Wedi'i yrru gan ddatrysiadau a syniadau creadigol
  • Ymagwedd frwdfrydig a chadarnhaol
  • Ymagwedd ragweithiol tuag at waith tîm
  • Gallu teithio rhwng campysau
  • Hyblyg i weithio'r tu allan i oriau contract arferol
  • Diddordeb mewn ffotograffiaeth, ffilm, delweddau a dylunio
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 1/2
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 1/2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein