MANYLION
  • Lleoliad: Rhadyr,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £44,249 - £48,159
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 11 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Tîm Cymorth TGCh

Coleg Gwent

Cyflog: £44,249 - £48,159

Arweinydd Tîm Cymorth TGCh
Swydd ddisgrifiad
37 awr yr wythnos

Cyfle Gyrfa Cyffrous: Arweinydd Tîm Cymorth TGCh

Ydych chi’n barod i symud eich sgiliau arweinyddiaeth i’r lefel nesaf?

Ymunwch â’n tîm bywiog fel yr Arweinydd Tîm Cymorth TGCh lle byddwch chi’n gyfrifol am dîm o staff cymorth sy’n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth TG ardderchog i ddysgwyr ac aelodau staff. Fel y cyswllt technegol allweddol rhwng ein hisadeiledd craidd a’n timau cymorth, byddwch chi’n meithrin cyfathrebu a chydweithredu di-dor.

Pam byddwch chi’n dwlu ar y rôl hon:

  • Arwain ac Ysbrydoli: Mentora tîm dawnus o beirianwyr cymorth TGCh, gan greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a chydweithredol.


  • Cael effaith: Sicrhau cymorth technegol o safon uchel, datrys problemau cymhleth a gyrru gwelliant parhaus.


  • Cadw mewn cysylltiad: Cysylltu â’n dysgwyr a’n haelodau staff i ddeall eu hanghenion a’u disgwyliadau gan y gwasanaeth TGCh.


  • Arloesi: Adnabod atebion i broblemau cylchol a’u rhoi ar waith, gan wella effeithlonrwydd ac ansawdd y gwasanaeth.


  • Cydweithredu: Gweithio’n agos â chydweithwyr ar gynllunio strategol a chymorth ar gyfer digwyddiadau critigol.


  • Datblygu: Darparu arweiniad a hyfforddiant i gefnogi peirianwyr, gan eu helpu i fagu eu sgiliau a’u gwybodaeth.


Os ydych chi’n angerddol am dechnoleg, arweinyddiaeth a gwneud gwahaniaeth, hoffem glywed gennych chi! Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm sy’n gwerthfawrogi arloesi, rhagoriaeth a thwf proffesiynol. Cyflwynwch gais nawr i arwain ein gwasanaethau cymorth TGCh tua’r dyfodol!

Mae’r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg ar lefel sylfaenol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant) yn ddymunol.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Sylwch y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manwl.

Bydd swyddi darlithio yn gofyn am gymhwyster addysgu (e.e. TAR) neu barodrwydd i ennill un gyda chyfnod penodol o amser. Bydd hyn yn ofynnol o dan eich contract cyflogaeth a chofrestriad CGA.

Yn Coleg Gwent, rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn sail i hyn a byddwn yn glynu wrthi ar bob cam o’r broses recriwtio.

Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn wedi’u hymgorffori yn ein hymarferion gwaith o ddydd i ddydd gyda’n dysgwyr, ein cydweithwyr a’n partneriaid.

Rydym yn gwybod mai’r timau mwyaf llwyddiannus yw’r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn sail i’n diwylliant yn Coleg Gwent. Rydym yn dymuno i bob unigolyn deimlo’n hyderus, teimlo’n falch a theimlo ei fod yn gallu bod ei wir hunan yn y gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n meddwl yn wahanol ac rydym yn hyblyg i ddarparu ar gyfer talent niwroamrywiol.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliaeth a chynyddu amrywiaeth yn y Coleg trwy chwalu rhwystrau a chefnogi pob aelod o staff i gyrraedd ei botensial. I sicrhau cynrychiolaeth well yn ein gweithlu, croesawn geisiadau, yn benodol, gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl dduon, pobl Asiaidd, a phobl o leiafrifoedd ethnig, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anneuaidd a phobl gydag anableddau. Gyda’n gilydd, rydym yn parhau i greu gweithle sydd, nid yn unig, yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr, ond sydd, hefyd, yn cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad ieithoedd eraill a phawb, beth bynnag eu hoedran, statws priodasol neu bartneriaeth sifil (un rhyw neu ddau ryw), nam neu gyflwr meddygol, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, yn unol â’n Polisi Cyfleoedd Cyfartal. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddïo ar gael.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac rydym wedi ymlynu wrth y Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Dduon. Mae 6 Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd (Enabled, Men’s Alliance, Women Together, Cynefin, LGBTQ+ a Race Alliance) yn allweddol o ran cefnogi’r gwaith hwn a darparu cymorth i gymheiriaid.

Beth sy’n dod â ni ynghyd?

Rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o gynhwysiant sy’n grymuso ein pobl i ffynnu ac sy’n meithrin ymdeimlad o berthyn.

I gefnogi’r Coleg i fod yn gymuned sy’n llawn parch, mae gennym grŵp llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwrandewch ar ein Hyrwyddwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn siarad am y rhesymau eu bod mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Dolen yn y ddogfen ynghlwm.

Mae eich lles o bwys

Mae eich lles yn bwysig i ni. Rydym yn dymuno sicrhau y gallwch chi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a chyrraedd eich potensial llawn. Mae rhaglen o weithgareddau lles drwy gydol y flwyddyn ac mae’r ap Headspace ar gyfer yr holl staff yn sail i hynny. Mae’n cynnwys detholiad amrywiol o fyfyrdodau ar gyfer anghenion dechreuwyr a’r rhai mwy profiadol. Hefyd, mae gennym ni Bartneriaid sy’n hyrwyddwyr iechyd meddwl hyfforddedig a mynediad cymorthdaledig at gampfa. Rydym yn benderfynol o greu amgylchedd sy’n cefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pawb.

Dyddiad Cau: 11/06/25

Dyddiad Cyfweliad: 23/06/25