MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau, Gwynedd, LL40 2SW
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £10,981 - £10,981
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

CYNORTHWY - YDD CEFNOGI DYSGU – SGILIAU BYW YN ANNIBYNNOL  (CYFNOD MAMOLAETH)

CYNORTHWY - YDD CEFNOGI DYSGU – SGILIAU BYW YN ANNIBYNNOL (CYFNOD MAMOLAETH)

Grwp Llandrillo Menai
Am ffurflen gais a gwybodaeth bellach ewch i; https://www.gllm.ac.uk/jobs

Prif Gyfrifoldebau:
Cefnogaeth Generig

1. Yn ymgymryd ag a/neu yn Cynorthwyo yn ystod y broses Asesu Cychwynnol.
2. Yn cynorthwyo dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) gyda gofynion cludiant.
3. Cymryd rhan yn ystod y Cyflwyniadau Cefnogi Dysgu.
4. Hybu dysgwyr i gael mynediad i’r Canolfannau Dysgu am gymorth ac arweiniad pellach gan yr Arweinydd Tîm Cefnogi Dysgu. H.y., cyfeiriad i weld y tiwtor Cefnogi Dysgu a/neu'r Anogwr Dysgu.
5. Yn symleiddio/ rhannu gwaith yn dameidiau hawdd eu trin ar gyfer dysgwyr.
6. Yn cefnogi anghenion sgiliau sylfaenol
7. Yn cymryd nodiadau ar sesiynau ac yn llunio ffeil cwrs er mwyn cefnogi unrhyw ddysgwr oedd yn absennol neu angen cefnogaeth ychwanegol. (Mae hyn hefyd yn darparu gwybodaeth cwrs i’r Arweinydd Tîm Cefnogi Dysgu a/neu Anogwr Dysgu).
8. Mewn cydweithrediad gyda'r Tiwtoriaid Cefnogi Dysgu a Chwrs yn nodi dysgwyr sydd heb gwblhau Asesiad Cychwynnol.
9. Yn mynychu cyfarfodydd tîm MRH a CD.



Cynorthwyo Darlithwyr, Hyfforddwyr a/neu Aseswyr

1. Yn helpu cadw disgyblaeth dda ac yn cadarnhau Gwerthoedd Coleg.
2. Cynorthwyo i baratoi a chynnal ac chadw ystafelloedd addysgu (lle bo angen).
3. Yn helpu gydag adnoddau a chofnodion addysgu
4. Yn dosbarthu unrhyw daflenni gwaith/ taflenni gwybodaeth i ddysgwyr
5. Yn gwneud unrhyw lungopïo ychwanegol sy’n ofynnol.
6. Yn arsylwi ar a rhoi gwybod am gyfranogiad/perfformiad dysgwyr.


Cefnogi Dysgwyr

1. Yn darparu cefnogaeth bersonol (lle’n ofynnol).
2. Yn sefydlu a chynnal perthynas gyda dysgwyr a/neu grwpiau unigol.
3. Yn cefnogi dysgwyr yn ystod gweithgareddau dysgu.
4. Yn esbonio/atgyfnerthu cyfarwyddiadau tiwtoriaid ystafell ddosbarth. E.e., darllen allan cwestiynau, tasgau, dyddiadau cau a osodwyd, gweithgareddau gwaith grŵp ac ati
5. Yn gweithredu fel ysgrifennydd (darllenwr/ ysgrifennwr) lle bo angen mewn arholiadau ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
6. Yn cadw cofnodion cywir i gefnogaeth a ddarparwyd i ddysgwyr (papur neu Bas Data Cefnogi Dysgu)
7. Yn cyd-gysylltu â'r Arweinydd Cefnogi Dysgu ynglŷn ag unrhyw gyfnodau o leoliad gwaith, wythnosau adolygu, ymweliadau addysgol a gynlluniwyd ac ati


Profiad Dysgwr Ehangach

1. Yn hebrwng dysgwyr i’r Llyfrgell, Caffi ac ati (lle bo angen).
2. Yn helpu a chyfeirio dysgwyr lle bo angen at wasanaethau cefnogi eraill. Yn nodi dysgwyr mewn cydweithrediad gyda thiwtoriaid cwrs ac Arweinwyr Tîm Cefnogi Dysgu a fyddai yn elwa o gefnogaeth ychwanegol h.y., Anogwr Dysgu, Tiwtor Cefnogi Dysgu, Cefnogaeth Cynghori ac ati
3. Yn annog dysgwyr i fod yn fwy annibynnol.
4. Yn hwyluso cwblhau arolwg Gwerthusiad Cefnogi Dysgu

JOB REQUIREMENTS
Gweler y swydd ddisgrifiad ynghlwm