MANYLION
  • Lleoliad: Dolgellau, Gwynedd, LL40 2SW
  • Testun: Adeiladwaith
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,381 - £42,325
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

DARLITHYDD PLASTRO

DARLITHYDD PLASTRO

Grwp Llandrillo Menai
Am fwy o wybodaeth am y swydd a ffurflen gais ewch ir wefan -https://www.gllm.ac.uk/jobs

PWRPAS Y SWYDD

Rôl Darlithydd mewn Plastro yw cyflwyno addysgu o ansawdd uchel, creu cyfleoedd effeithiol ar gyfer dysgu a galluogi pob dysgwr i gyflawni hyd eithaf ei allu. Er y gall fod cyfleoedd i addysgu'n ymarferol mewn amgylchedd gweithdy, bydd y rhan fwyaf o'r gwaith mewn ystafell ddosbarth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddysgu tair lefel wahanol o ddysgwyr, o ymadawyr ysgol hyd at brentisiaid trydedd flwyddyn. Byddant hefyd yn cysylltu â'r Corff Dyfarnu (City and Guilds) i sicrhau bod safonau'n cael eu bodloni a gweithdrefnau'n cael eu dilyn yn gywir. Fel rhan o’r rôl, bydd cyfleoedd hefyd i ymweld â dysgwyr ar y safle i’w hasesu yn eu gweithle.

JOB REQUIREMENTS
Cymwysterau ● Cymhwyster Galwedigaethol Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Plastro

● Cymhwyster dysgu neu’r parodrwydd i’w ennill o fewn 2 flynedd ● Cymhwyster Level 4 neu uwch mewn maes perthnasol


● Cymhwysterau asesu a dilysu mewnol

Profiad ● 2 flynedd neu fwy o brofiad:- dysgu Plastro neu gweithio fel plastrwr yn y maes Adeiladwaith.


Sgiliau Cyffredinol ● Sgiliau rhyngbersonol effeithiol
● Sgiliau cyfathrebu rhagorol
● Sgiliau trefniadaethol effeithiol
● Sgiliau effeithiol mewn Technoleg Gwybodaeth ● Gallu defnyddio ystod o dechnegau TGD
Priodoleddau Personol ● Yn hyblyg ac yn ymatebol i newid
● Hunan-hyderus
● Yn ymatebol i anghenion amrywiaeth o ddysgwyr
● Yn frwdfrydig ac â chymhelliant cryf
● Sgiliau datrys problemau effeithiol
● Ymrwymiad i weithio mewn Tîm
Sgiliau Ieithyddol ● Gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg