MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea, Conwy, LL28 4HZ
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,352 - £26,425
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Swyddog Dylunio Digidol a Graffig

Swyddog Dylunio Digidol a Graffig

Grwp Llandrillo Menai
PRIF BWRPAS

Mae tîm Marchnata effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i rwydwaith Grŵp Llandrillo Menai. Bydd y Swyddog Dylunio Digidol a Graffig yn cymryd cyfrifoldeb penodol am ddylunio graffig a chynhyrchu cynnwys digidol y Grŵp, gan gynnwys ystod eang o brosiectau, o ddylunio digidol a chyfryngau cymdeithasol i'r wefan a deunyddiau printiedig.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddawn greadigol a'r gallu i greu dyluniadau hynod effeithiol a diddorol. Cewch gyfle i arwain cysyniadau creadigol gan weithio'n agos gyda'n tîm marchnata profiadol.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun sydd â phrofiad o ddefnyddio amrywiaeth eang o feddalwedd dylunio a phortffolio cryf o waith, ac sydd am gymryd rhan mewn datblygu cysyniadau creadigol a defnyddio eu gwaith i recriwtio myfyrwyr.

Gweler y Swydd Ddisgrifiad ynghlwm

Am wybodaeth bellach ewch i : https://www.gllm.ac.uk/jobs
JOB REQUIREMENTS
Gweler y Swydd Ddisgrifiad ynghlwm