MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Pwnc: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Mentor (DSW) ac Uwch-swyddog Cydymffurfio

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Dysgu Seiliedig ar Waith i berson brwdfrydig a rhagweithiol.

Bydd y rôl yn canolbwyntio’n bennaf ar gyfrannu at gydymffurfiaeth â manylebau contractau Dysgu Seiliedig ar Waith Cymru a Lloegr, ac mi fydd gofyn i chi ddarparu cymorth cynhwysfawr a mentora partneriaid darparu (Adrannau’r Coleg ac Is-gontractwyr Allanol.)

Byddwch yn gweithredu fel Hyrwyddwr Smart Assessor y Coleg, gan ddarparu rhaglenni mentora a hyfforddiant. Byddwch hefyd yn mentora ymarferwyr a thimau DSW i sicrhau ymarfer effeithiol a hybu arferion gorau’r sector.

Bydd gennych Ddyfarniad Aseswr Lefel 3 a Lefel 3 neu uwch mewn Gweinyddu Busnes (neu ddisgyblaeth berthnasol), yn ogystal â TAR/Cert.Ed neu gymhwyster hyfforddi cyfatebol. Bydd gennych hefyd gymhwyster Lefel 2 (Gradd A-C) mewn Mathemateg a Saesneg.

Byddwch yn gwybod sut i greu a chynnal a chadw systemau gweinyddu manwl gywir.

Yn meddu ar brofiad o ddatblygu aelodau tîm mewnol ac allanol, ac yn gwybod sut i fynd i’r afael ag arferion gwael lle bo angen, bydd gennych brofiad o gyflwyno rhaglenni prentisiaeth o’r radd flaenaf.

Bydd gennych wybodaeth a phrofiad o ddefnyddio e-bortffolios a chyflwyno DSW ac byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth o brosesau arolygu allanol.

Bydd gennych hefyd rhinweddau arwain a byddwch yn medru symleiddio prosesau cymhleth mewn modd syml a chlir, gan feithrin perthnasoedd gweithio rhagorol. Byddwch yn mynd i’r afael ag unrhyw heriau mewn ffordd ddiplomyddol.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).