MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £35,712 - £41,541 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Sgiliau Gwyrdd

Coleg Sir Gar

Cyflog: £35,712 - £41,541 / blwyddyn

Swyddog Sgiliau Gwyrdd
Application Deadline: 4 June 2025

Department: Ysbrodoli Rhagoriaeth Sgiliau

Employment Type: Cyfnod Penodol - Llawn Amser

Location: Campws Graig

Reporting To: Cyfarwyddwr y Prosiect Ysbrydoli Sgiliau

Compensation: £35,712 - £41,541 / blwyddyn

DescriptionMae Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Goleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion. Mae'r prosiect, a gefnogir gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, yn canolbwyntio ar alluogi mwy o gyfranogiad mewn Cystadlaethau Sgiliau trwy ehangu'r wybodaeth a'r arbenigedd ar draws y sector addysg a hyfforddiant.

Fel deilydd y contract, mae'r coleg wedi penodi tîm cyflwyno neilltuedig dan arweiniad Cyfarwyddwr Prosiect. Mae'r Cyfarwyddwr Prosiect yn unigolyn allweddol sy'n arwain tîm gwasgaredig yn ddaearyddol sy'n gyfrifol am gyflwyno deilliannau'r prosiect.

Fel deiliad y contract, mae'r coleg yn dymuno penodi Swyddog Sgiliau Gwyrdd i gefnogi nod uchelgeisiol y prosiect o gefnogi cynllun Sero Net Llywodraeth Cymru. Bydd y Cydlynydd Sgiliau Gwyrdd / Sero Net yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar y canlyniadau dynodedig, a fydd yn darparu dull cydlynol o ymdrin â Sgiliau Gwyrdd a Sero Net ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid. Bydd yn canolbwyntio ar adolygu'r sgiliau a gynigir ar draws rhwydwaith y colegau i weithio tuag at gyflawni allyriadau sero net a hyrwyddo arferion cynaliadwy ledled Cymru.

Mae'r rôl hon yn cynnwys datblygu a gweithredu cynlluniau strategol, goruchwylio datblygiadau yn y dyfodol, cydlynu cynlluniau ymgysylltu rhanbarthol, a sicrhau llwyddiant cyffredinol y prosiect.

Fel Swyddog Sgiliau Gwyrdd, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth arwain a datblygu ein mentrau sy'n canolbwyntio ar roi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill ar gyfer dyfodol cynaliadwy a digarbon net.

Mae'r gallu i ysbrydoli, cymell a dylanwadu ar eraill yn sgiliau allweddol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon. Gan weithio ledled Cymru mewn partneriaethau â'r sector addysg a hyfforddiant, bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn fodel rôl i eraill ei ddilyn, wrth gynnal y safonau uchaf posibl a gweithio'n gadarnhaol ac yn broffesiynol gyda gonestrwydd a thryloywder.

Bydd y swydd yn golygu teithio'n helaeth ledled Cymru, gan ofyn am hyblygrwydd mewn oriau gwaith a bydd yn arwain at weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid.

Cyfrifoldebau Allweddol Dyletswyddau cyffredinol
  • Gweithio gyda'r tîm rheoli prosiectau i ddatblygu cyfeiriad strategol y prosiect Ysbrydoli Sgiliau tuag at gyflawni'r cynllun Sgiliau Gwyrdd / Sero Net, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag amcanion cyffredinol y prosiect;
  • Cefnogi Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i weithredu a chyflawni eu nodau sero net a chynaliadwyedd;
  • Cynrychioli'r prosiect Ysbrydoli Sgiliau mewn digwyddiadau a chyfarfodydd, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwaith Sgiliau Gwyrdd a Sero Net.
  • Sefydlu a chynnal partneriaethau â rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector addysg a diwydiant i wella'r cyfleoedd ac i ddarparu atebion cydgysylltiedig, arloesol a chynaliadwy i gyflawni'r amcanion y prosiect Ysbrydoli Sgiliau
  • Cymryd rôl arweiniol wrth sefydlu seilwaith yng Nghymru sy'n cipio a rhannu arfer gorau ar draws Sgiliau Gwyrdd a Sero Net
  • Cadw i fyny â datblygiadau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd mewn perthynas â Sgiliau Gwyrdd / Sero Net, gan sicrhau lledaeniad effeithiol o ddata, cynlluniau a gwybodaeth am y farchnad lafur i randdeiliaid allweddol.
  • Datblygu a rheoli'r gyllideb sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth hon, gan ddyrannu adnoddau'n effeithiol i gefnogi datblygiad y rhaglen.
  • Monitro effeithiolrwydd y rhaglen, gan sicrhau cydymffurfiaeth â safonau rheoleiddio a phrosesau sicrhau ansawdd.
  • Bod yn aelod effeithiol o dîm, gan gefnogi a chymryd rhan mewn gweithgarwch ar draws y prosiect, gan sicrhau y manteisir i'r eithaf ar drawsweithio ac aml-dasgio er mwyn darparu rhyngwyneb di-dor yn effeithiol i dderbynwyr y prosiect(au).
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel y cyfarwyddir gan y Pennaeth/Prif Weithredwr sy'n gymesur â gradd y swydd yn y man gwaith cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.

Datblygu a Darparu Cystadlaethau Sgiliau Gwyrdd

  • Cynllunio, rheoli a gwerthuso gweithgaredd cystadleuaeth sgiliau gwyrdd a gwneud argymhellion addas i ddiwallu anghenion addysg a diwydiant a lle bo angen, nodi cyfleoedd ariannu, gan gynnwys grantiau, nawdd, a phartneriaethau, i gefnogi gweithrediadau a thwf yn y dyfodol.
  • Integreiddio elfennau cynaliadwyedd i holl ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gan sicrhau ffocws cryf ar arferion a thechnolegau ecogyfeillgar.
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer rhaglenni a chyrsiau arloesol sy'n hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu sgiliau gwyrdd, cynaliadwyedd ac ymwybyddiaeth amgylcheddol
  • Defnyddio cystadlaethau fel arf i ysbrydoli uchelgais, meincnodi safonau, ac arddangos rhagoriaeth alwedigaethol yn unol ag ymrwymiad Ysbrydoli Sgiliau i godi safonau sgiliau.
  • Darparu cefnogaeth i bartneriaid cyflenwi i godi safon ac ansawdd cyfleoedd dysgu seiliedig ar gystadleuaeth.
  • Cymryd rhan arweiniol mewn grwpiau llywio, cyflwyno mewn digwyddiadau, ysgrifennu darnau proffesiynol a chreadigol.

Codi Ymwybyddiaeth o Sgiliau Gwyrdd ar draws y Sector Addysg a Hyfforddiant

  • Gweithredu fel y cydlynydd arweiniol ar gyfer sgiliau gwyrdd / sero net yn y prosiect Ysbrydoli Sgiliau er mwyn nodi ac adolygu'r ddarpariaeth o gyfleoedd hyfforddi a datblygu gwyrdd a sero net ar draws y sector addysg a hyfforddiant
  • Defnyddio astudiaethau achos a straeon llwyddiant i arddangos rhagoriaeth mewn sgiliau gwyrdd, gan hyrwyddo llwybrau galwedigaethol a llwybrau gyrfa.
  • Cefnogi lleoliadau cynnal cystadlaethau i hwyluso ymweliadau ymgysylltu â chystadlaethau, gyda gweithgareddau gwyrdd rhyngweithiol i fyfyrwyr, i ysbrydoli diddordeb cynnar mewn gyrfaoedd sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.

Datblygu a chyflwyno'r Sesiynau Datblygu Rhagoriaeth Sgiliau Gwyrdd

  • Ysbrydoli'r rhwydwaith ledled Cymru i wella eu darpariaeth o addysg cynaliadwyedd.
  • Monitro datblygiadau ledled y DU ac yn rhyngwladol, polisïau sy'n dod i'r amlwg, a strategaethau ar gyfer Sero Net er mwyn llywio'r cyfeiriad strategol ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant
  • Adolygu safonau cystadleuaeth sgiliau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gyflwyno gweithdai DPP pwrpasol i arfogi staff â'r arbenigedd i baratoi dysgwyr ar gyfer cystadlaethau sgiliau gwyrdd, gan alinio â ffocws ISEiW ar ddatblygiad proffesiynol a gwelliant parhaus.
  • Trefnu a hwyluso digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol sy'n dod â rhanddeiliaid strategol at ei gilydd i hyrwyddo a lledaenu dealltwriaeth ledled y sector o Sgiliau Gwyrdd / Sero Net.
  • Cefnogi gyflwyno gweithdai єYmarferwyr Arbenigol mewn Ysbrydoli Sgiliau' sy'n hyrwyddo rhagoriaeth sgiliau trwy weithgareddau cystadleuol.

Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
  • Profiad helaeth ym maes addysg bellach
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gref o'r economi a'r sgiliau
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gref o gynaliadwyedd a sgiliau gwyrdd
  • Yn gallu dadansoddi data neu ddehongli data
  • Sgiliau ysgrifenedig/sgiliau cyfathrebu
  • Sgiliau arwain, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i ymgysylltu ac ysbrydoli amrywiaeth o randdeiliaid
  • Sgiliau trefnu a rheoli prosiect cryf, gyda'r gallu i flaenoriaethu Hanfodol a rheoli tasgau lluosog yn effeithiol
  • Ymrwymiad i greu dyfodol mwy gwyrdd
  • Cyfathrebwr ardderchog gyda diplomyddiaeth a thact
  • Sgiliau rhyngbersonol a sefydliadol ardderchog
  • Lefel uchel o uniondeb personol a chyfrinachedd
  • Y gallu i weithio'n gytûn â chyd-weithwyr
  • Y gallu i weithio dan bwysau i derfynau amser tyn
  • Ymrwymiad i ddealltwriaeth o Addysg Bellach, Addysg Uwch,darpariaethau 14-19 a Dysgu Seiliedig ar Waith
Dymunol:
  • Gradd neu Radd Uwch
Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwm.

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein