MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ammanford, SA18 3TA
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: £24,424 - £27,951 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,424 - £27,951 / blwyddyn
Technegydd mewn AdeiladuApplication Deadline: 6 June 2025
Department: Adeiladu
Employment Type: Cyfnod Penodol - Llawn Amser
Location: Campws Rhydaman
Reporting To: Pennaeth Adeiladu
Compensation: £24,424 - £27,951 / blwyddyn
DescriptionMae'r Maes Cwricwlwm Adeiladu yn rhan o'r gyfadran Adeiladu, Sylfaen ac ILS. Mae'r ddarpariaeth adeiladu wedi'i lleoli ar Gampws Rhydaman ac mae'n cynnwys crefftau adeiladu, gwasanaethau adeiladu, ysgolion, technegol adeiladu ac addysg uwch. Mae rhan o'r ddarpariaeth ysgolion hefyd yn cael ei chyflwyno oddi ar y safle yn ysgol Bryngwyn. Mae gan y tîm Maes Cwricwlwm dros ddeugain o aelodau llawn amser a rhan amser sy'n cynnwys staff addysgu, asesu a chefnogi. Mae gan y Maes Cwricwlwm hefyd gysylltiadau helaeth â diwydiant gan ennill llawer o wobrau cenedlaethol am bartneriaethau cydweithredol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 2/3 o leiaf mewn crefftau Adeiladu neu faes perthnasol, profiad yn y diwydiant ac angerdd am ddysgu a datblygu. Yn y rôl hon byddwch yn bennaf yn cefnogi tîm Adeiladu a Phlymio Gwasanaethau Adeiladu ond bydd disgwyl hefyd i chi gyfrannu at yr holl ofynion cymorth technegol o fewn y Maes Cwricwlwm.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ddarparu cefnogaeth a chymorth technegol ar gyfer gwaith dysgu ac addysgu o fewn eich maes, gan ymateb i anghenion myfyrwyr, staff academaidd a'r arweinydd (arweinwyr) cwrs perthnasol;
- Cynnal a chadw amgylchedd gwaith glân a diogel, gan gydymffurfio â rheoliadau Iechyd a Diogelwch;
- Paratoi, cynnal a diweddaru dogfennau Iechyd a Diogelwch perthnasol megis Asesiadau Risg, Systemau Gwaith Diogel, cofnodion COSHH a chofnodion cynnal a chadw cyfarpar, trwy gysylltu â thimau cwrs;
- Cynnal a chadw, uwchraddio a gwasanaethu cyfarpar yn ôl y bwriad, y gofyn neu ar gais; peiriannau coed a pheiriannau a chyfarpar statig a chludadwy eraill yn ymwneud ag adeiladu. Derbyn hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen;
- Sicrhau bod cyfarpar cwrs, deunyddiau a stoc yn derbyn y gofal priodol a'u bod yn cael eu rheoli, eu cynnal a'u cadw a'u diogelu;
- Cadw stocrestr stordai ar gyfer nwyddau traul, cyfarpar ac adnoddau cyflwyno;
- Mynd ati i archebu stoc yn unol â gweithdrefnau ariannol y coleg a diweddaru'r gronfa ddata archebu ar-lein;
- Darparu gwasanaeth cyflenwi o'r stordai ar gyfer nwyddau traul y cwrs a gwasanaeth benthyca a dychwelyd ar gyfer yr holl gyfarpar adrannol ac eitemau cwrs eraill;
- Cymryd rhan yng nghyfarfodydd tîm y cwrs; pwyllgorau ymgynghorol myfyrwyr; a chyfarfodydd y maes cwricwlwm yn ôl y gofyn;
- Cyflawni dyletswyddau sy'n cefnogi gwaith marchnata a hyrwyddo rhaglen y cwrs;
- Cynorthwyo darlithwyr a myfyrwyr wrth iddynt ymgymryd â gweithgareddau mewn gweithdy, yn unol ag amserlen y cytunwyd arni;
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- O leiaf Cymhwyster Lefel 2/3 mewn Galwedigaethau Coed
- Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch priodol (neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol)
- Profiad diweddar a pherthnasol o'r maes/meysydd technegol dan sylw
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Sgiliau rhyngbersonol a threfniadol da
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda myfyrwyr a chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Y gallu i weithio'n hyblyg
- TGAU Saesneg ac Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- IOSH Rheoli'n Ddiogel (Os nad oes gennych gymhwyster IOSH, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Cymhwyster Cymorth Cyntaf (Os nad oes gennych gymhwyster Cymorth Cyntaf, bydd disgwyl i chi ymgymryd â hyfforddiant cyn gynted â phosibl)
- Dealltwriaeth dda o'r rôl cymorth technegol mewn Addysg Bellach
- Bod yn gymwys wrth ddefnyddio'r peiriannau canlynol: Peiriannau coed a pheiriannau a chyfarpar statig a chludadwy eraill yn ymwneud ag adeiladu
- Trwydded yrru gyfredol
- Gallu gyrru bws mini'r coleg
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein